S4C yn 'gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015'
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Huw Jones ddweud ddydd Mawrth y bydd S4C yn "gorff llai ond yn fwy effeithiol erbyn 2015".
Bydd Cadeirydd Awdurdod S4C ymhlith sawl un fydd yn annerch cynhadledd undydd am ddyfodol darlledu yng Nghymru.
Sefydliad Materion Cymreig sy'n cynnal y gynhadledd wrth i'r diwydiant wynebu cyfnod anodd.
Mae'r BBC yn wynebu toriadau cyllid ac mae 'na ffrae am ariannu S4C ac ITV yn cynnig llai o wasanaethau yng Nghymru.
Yn ôl y sefydliad, mae 'na ymwybyddiaeth nad oes digon o ddylanwad o Gymru dros bolisi.
Cyd-weithio
Mae'n gyfnod o newid yn y diwydiant wrth i BBC Cymru ac S4C gael arweinwyr newydd.
Yn y cyfamser, mae Llywodraeth y DU yn annog mwy o gydweithio rhwng y BBC ac S4C yn ogystal â cheisio hybu teledu lleol.
Fe fydd 'na drafod am yr hyn sy'n wynebu'r diwydiant yn ystod y 10 mlynedd nesaf yn y gynhadledd.
Mae disgwyl i Mr Jones, Prif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005, egluro y bydd y sefydliad yn aml-gyfryngol ac yn gyfrifol am gomisiynu a darlledu cynnwys gwreiddiol fydd yn gyfraniad pwysig "i ddiwylliant deniadol a chyfoethog drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg".
'Pellgyrhaeddol'
"Fe fydd yn hwyluso mynediad i'r gwasanaeth i'r rhai hynny sydd ddim yn siarad Cymraeg.
"Fe fydd y sianel yn bartner effeithiol i'r BBC gan reoli ei hun ond gan fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am ei defnydd o arian y drwydded ac i'r llywodraeth am yr arian cyhoeddus arall."
Fe fydd Mr Jones yn dweud y bydd S4C yn 2015 yn rhan "annatod o ddatblygiad a pharhad y Gymraeg ac yn gwneud cyfraniad economaidd a diwylliannol pellgyrhaeddol".
Ymhlith y siaradwyr eraill mae Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, Guy Phillips o ITV, Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg, a Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Hydref 2011