Ymgynghori ar y cynllun i newid y drefn o roi organau

  • Cyhoeddwyd
Cerdyn rhoddwrFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn y cyhoedd ar y cynllun i newid y drefn o roi organau.

Fe fyddai'r ddeddf yn golygu bod rhaid i unigolion ddewis peidio â bod ar y gofrestr rhoi organau pan fyddan nhw'n marw yn hytrach na'r broses bresennol o ddewis rhoi organau.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Lesley Griffiths, bod prinder organau a meinwe yn arwain at ddioddefaint a marwolaethau diangen.

Gobaith meddygon yw y bydd y ddeddf yn "newid diwylliant disgwyliadau" ac y bydd yn arwain at drafodaeth o fewn teuluoedd am ddymuniadau unigolion.

Fe wnaeth Ms Griffiths gyflwyno'r cynlluniau yn uned trawsblannu Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd am 10.15am ddydd Mawrth.

Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y DU i geisio cyflwyno system o'r fath, er mwyn cynyddu nifer y rhoddwyr, petai'r ddeddf yn cael ei chaniatáu.

Mae Papur Gwyn y llywodraeth yn gosod manylion am sut y byddai'r system yn gweithio.

Opsiynau

Dim ond pobl dros 18 oed sy'n byw a marw yng Nghymru fydd yn cael eu cyflwyno o dan y system newydd.

Fe fydd yn rhaid i unrhyw unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod penodol o amser cyn cael eu cynnwys ar y system optio allan.

Ymhlith yr hyn mae'r Papur Gwyn yn ei ofyn yw pa mor hir y dylai'r amser penodol yma fod.

O dan y drefn newydd hefyd fydd gan deuluoedd pobl sydd wedi cofrestru i roi organau, ddim hawl i atal hynny rhag digwydd wedi i'w hanwyliaid farw.

"Yn ôl y drefn newydd fydd yr organau gan bobl Cymru yn aros o reidrwydd yn aros yng Nghymru," meddai Gohebydd Iechyd BBC Cymru Arwyn Jones.

"Fe fydd y rhai mwya cymwys ar y rhestr drwy Brydain yn derbyn yr organau nid pobl yng Nghymru yn unig.

"Rydan ni wedi cael gwybod na fydd ymwelwyr â Chymru, pobl dan 18 oed, Cymry sy'n marw tu allan i Gymru, neu rhai sydd heb fyw yng Nghymru ers amser penodol yn cael eu cynnwys o dan y ddeddf newydd."

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried nifer o opsiynau o ran cadw cofnodion a fydd yn cydredeg â'r Gofrestr bresennol er mwyn sicrhau y caiff barn unigolyn ei pharchu ar ôl ei farwolaeth.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Opsiwn A - cofrestr i Gymru o'r bobl sydd heb wrthwynebu, a chofrestr o'r bobl sydd wedi gwrthwynebu;

  • Opsiwn B - cofrestr i Gymru yn cynnwys dim ond y bobl sydd heb wrthwynebu;

  • Opsiwn C - cofrestr i Gymru yn cynnwys dim ond y bobl sydd wedi gwrthwynebu;

  • Opsiwn D - dim cofrestr(au), ond cofnod o wrthwynebiad yn cael ei roi i feddyg teulu'r person, a'i gadw yno

Dywedodd Ms Griffiths bod y llywodraeth yn credu y byddai deddfwriaeth yn cynyddu'r nifer o organau a meinwe fydd ar gael.

"Pan mae rhywun yn marw mae'n bosib cael organau a neu feinwe ond dyw hyn ddim yn digwydd bob tro - nid am nad dyna oedd eu dymuniad, ond yn hytrach wnaethon nhw ddim arwyddo cofrestr," meddai.

"Mae arolwg ar ôl arolwg yn dangos bod y mwyafrif o bobl Cymru a gweddill y DU yn credu mewn rhoi organau ond dim ond un o bob tri o bobl o Gymru sydd wedi ymuno gyda'r gofrestr.

"Y llynedd doedd 67% o roddwyr ddim ar y gofrestr.

"Rydym felly yn credu bod creu awyrgylch lle mae rhoi organau'n beth naturiol, y bydd mwy ar gael."

'Gwahaniaeth'

Mae Sefydliad y Galon wedi croesawu'r cynlluniau ac yn galw ar weddill llywodraethau'r DU i ddilyn Cymru,

Disgrifiad,

Elin Gwilym yn holi Elliw Llwyd Owen

"Fe fydd optio allan yn hytrach na mewn yn gwneud gwahaniaeth rhwng byw neu farw i nifer o deuluoedd," meddai Maura Gillespie, Rheolwr Polisi ac Eiriolaeth y Sefydliad.

"Mae Cymru wneud gwneud cam sylweddol tuag at gyflwyno system a fydd yn gweld mwy o gleifion y galon yn cael organau ac yn byw.

"Fe fyddai system optio allan yn adlewyrchu'n well dyheadau'r mwyafrif o bobl.."

Dywedodd Roy J Thomas, cadeirydd Sefydliad Aren Cymru, bod nifer y rhoddwyr yn y DU ymhlith yr isaf yn Ewrop.

"Fe fydd Cymru yn arwain y ffordd.

"Mae 'na gynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y rhoddwyr wrth i fwy a mwy ddeall y ddadl."

'Achub bywydau'

Dywedodd Dr Tony Calland, Cadeirydd Pwyllgor Moeseg Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig, bod pobl yn marw yn flynyddol wrth aros am drawsblaniad.

"Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod system optio allan yn arwain at achub bywydau," meddai.

"Rydym yn gobeithio y bydd y system optio allan yn newid disgwyliadau cymdeithas ac arwain at fwy o drafodaeth ymhlith teuluoedd ar y pwnc."

Dros y penwythnos diwethaf dywedodd Glyn Davies, AS Ceidwadol Maldwyn, y bydd yn gofyn am amser yn San Steffan i drafod y mater.

"Does dim gwahaniaeth gen i symud i'r drefn newydd oherwydd mae bron pawb o blaid rhoi organau....

"Ond mae caniatâd tybiedig yn creu amheuaeth..."

Fe fydd ymgynghoriad ar y cynlluniau sydd yn y Papur Gwyn ar agor tan Ionawr 31 2012 ac mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i leisio barn.

Dywedodd y llywodraeth y bydd mesur yn cael ei gyflwyno yn ystod 2012 ac y gallai fod yn ei le erbyn 2013 ac y byddai'r system feddal o optio allan ar waith yng Nghymru yn ystod 2015.

Ond un maen tramgwydd posib yw bod Llywodraeth San Steffan wedi dweud yn gynharach eleni eu bod yn ansicr a all Llywodraeth Cymru gyflwyno'r ddeddf yma, mae 'na amheuaeth a oes ganddyn nhw'r grym.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol