Ymchwilio i wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dechrau ymchwiliad newydd a fydd yn archwilio sut y caiff gwasanaethau mabwysiadu eu darparu yng Nghymru.
Bydd yr ymchwiliad yn ymdrin â materion fel y broses o asesu darpar rieni; yn canfod unrhyw ffactorau sy'n rhwystro pobl rhag mabwysiadu ac y dylid eu dileu ac yn ystyried y cymorth a roddir i deuluoedd sy'n mabwysiadu.
Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gofyn am farn sefydliadau ac unigolion perthnasol yng Nghymru, gan gynnwys y rheini sydd â phrofiad personol o'r broses fabwysiadu.
'Oedi diangen'
Dywedodd Christine Chapman, Cadeirydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, bod y broses o fabwysiadu yn gallu cynnwys rhai o'n plant mwyaf bregus.
"Mae'r Pwyllgor wedi dewis cynnal yr ymchwiliad hwn gan ei fod yn credu bod achosion o oedi diangen, sy'n rhoi gormod o straen ar blant a darpar deuluoedd," meddai.
"Mae'n bwysig ein bod yn casglu barn pobl sydd wedi dod i gysylltiad uniongyrchol â'r broses fabwysiadu, gan mai eu lles hwy fydd wrth galon ein casgliadau a'n hargymhellion.
"Felly, byddwn yn annog unrhyw un sydd â phrofiad o'r fath i gymryd rhan a dweud eu barn wrthym.
"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi newidiadau i wasanaethau mabwysiadu ar waith ar hyn o bryd, ac yn ei rhaglen ar gyfer y pum mlynedd nesaf mae wedi cyflwyno cynlluniau i greu un asiantaeth mabwysiadu genedlaethol.
"Rydym fel Pwyllgor yn awyddus i gynnal yr ymchwiliad pwysig hwn yn awr gan obeithio y bydd ein canfyddiadau yn helpu i lywio'r polisi mabwysiadu yn y dyfodol, ac yn helpu i gael gwared ar rywfaint o'r straen diangen sydd ar bawb sy'n ymwneud â'r broses fabwysiadu."
Dylai unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu tystiolaeth at yr ymchwiliad anfon e-bost at CYPCommittee@wales.gov.uk, neu ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1NA.