Cefnogaeth Syr Richard Branson i'r ddeddf organau
- Cyhoeddwyd
Mae sylfaenydd cwmni Virgin, Syr Richard Branson, wedi llongyfarch Gweinidog Iechyd Cymru ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno system feddal o eithrio rhag rhoi organau.
Ym mis Tachwedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am geisio barn y cyhoedd ar y cynllun i newid y drefn o roi organau.
Fe fyddai'r ddeddf yn golygu bod rhaid i unigolion ddewis peidio â bod ar y gofrestr rhoi organau pan fyddan nhw'n marw yn hytrach na'r broses bresennol o ddewis rhoi organau.
Gobaith meddygon yw y bydd y ddeddf yn "newid diwylliant disgwyliadau" ac y bydd yn arwain at drafodaeth o fewn teuluoedd am ddymuniadau unigolion.
Y gred yw bod prinder organau a meinwe yn arwain at ddioddefaint a marwolaethau diangen.
Wrth siarad â Lesley Griffiths yn ddiweddar, dywedodd Syr Richard ei fod yn falch bod Cymru yn bwriadu arwain y ffordd ym Mhrydain trwy gyflwyno system eithrio rhag rhoi organau.
Achub bywydau
"Bydd hynny'n achub llawer o fywydau," meddai.
"Ar draws Prydain, mae 90% o'r boblogaeth yn cefnogi'r syniad o roi organau, ond dim ond 29% sydd ar y gofrestr.
"Mae system eithrio yn ei gwneud yn hawdd i bawb gytuno i roi eu horganau oni bai eu bod yn defnyddio'u hawl i beidio â gwneud hynny.
"Da iawn Cymru. Gobeithio y bydd Yr Alban a Lloegr yn dilyn yn fuan er mwyn achub mwy o fywydau."
Dywedodd Mrs Griffiths bod pobl yng Nghymru yn marw wrth aros i gael trawsblaniad.
"Bydd system eithrio yn cynyddu nifer y rhoddwyr organau yng Nghymru, ac yn achub mwy o fywydau, gan wella ansawdd bywyd pobl hefyd.
"Mae'n help cael rhywun adnabyddus i gefnogi ein polisi, a'r disgwyl yw y bydd y polisi hwnnw yn ei le erbyn 2015.
"Hyd nes bod hynny'n digwydd, mae'n bwysig iawn bod pobl yn parhau i ymuno â'r Gofrestr Rhoddwyr Organau, gan wneud yn siŵr bod eu teulu a'u ffrindiau yn gwybod beth yw eu dymuniadau.
"Ar hyn o bryd, rydym wrthi'n ymgynghori ar ein cynigion, a hoffwn annog pawb sydd am roi sylwadau i wneud hynny cyn diwedd mis Ionawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011