Rhoi organau: Eglwys yn trefnu dadl am gydsyniad tybiedig
- Cyhoeddwyd
Mae dadl gyhoeddus am foesoldeb cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Am 2pm mae'n dechrau yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr yn Yr Ais a'r trefnwyr yw'r Eglwys yng Nghymru.
Yno mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan; Roy Thomas, Cadeirydd Gweithredol Sefydliad Arennau Cymru a Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn mynegi eu safbwynt.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn mudiadau ac unigolion am eu cynigion tan ddiwedd y mis ac mae'r archesgob o blaid eu dileu.
Y llynedd rhybuddiodd y gallai'r cynigion droi "gwirfoddolwyr yn rhai oedd yn cael eu gorfodi".
Rhodd
Dywedodd y dylai organau fod yn rhodd i eraill nid yn "ased i'r wladwriaeth."
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi dweud y dylai pobl ystyried cwestiynau moesol, gan gynnwys:
Beth yw ein barn am bwysigrwydd y corff dynol hyd yn oed wedi marwolaeth?
Pwy sydd â'r hawl i benderfynu sut y bydd y corff yn cael ei drin?
Pa mor bwysig yw egwyddor rhoi anhunanol pan ddaw i arbed bywyd?
A yw perthynas y wladwriaeth gyda'r unigolyn yn newid os oes tybiaeth fod ein horganau ar gael i'w rhi?
Beth sydd gan y ffydd Gristnogol i'w ddweud am hyn i gyd - ac a yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth?
Dywedodd y Parchedig Carol Wardman o'r Eglwys yng Nghymru: "Byddai'r rhan fwya o bobl yn hapus iawn i'w horganau gael eu defnyddio ar ôl eu marwolaeth er budd rhywun arall.
"Ond dim ond tua 30% ohonon ni sy'n ymuno â'r gofrestr rhoi organau.
"Dyna pam bod Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu defnyddio organau ar gyfer eu trawsblannu os nad yw'r person wedi mynegi gwrthwynebiad.
"Mae proses ymgynghori y llywodraeth yn canolbwyntio ar agweddau ymarferol y system arfaethedig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2011