Bangor 1-3 Y Seintiau Newydd

  • Cyhoeddwyd
Uwchgyngrhair CymruFfynhonnell y llun, Not Specified

Mae tynged pencampwriaeth Cymru yn gwbl agored wedi i'r pencampwyr golli gartref am yr ail wythnos yn olynol.

Roedd Neville Powell yn gobeithio cael ymateb gan ei dîm wedi iddyn nhw golli i Gastell-nedd yn Nantporth wythnos yn ôl.

Ond yr un oedd y stori wrth i'r Seintiau Newydd fynd dair ar y blaen cyn yr egwyl.

Greg Draper gafodd y gyntaf wedi 20 munud - y dasg yn hawdd wedi iddo fynd â'r bêl rownd y golwr Lee Idzi.

Er i Fangor gael ambell gyfle i unioni'r sgôr - yn enwedig un cynnig gan Les Davies - fe ddaeth ail i'r ymwelwyr o fewn eiliadau i un o'r cyfleoedd hynny.

Aeron Edwards gafodd yr ail, a chyn yr egwyl roedd hi'n dair. Fe fydd Greg Draper yn hawlio honno hefyd er i'r camera awgrymu mai cyffyrddiad i'w gôl ei hun oedd hi gan Peter Hoy.

Ofer

Roedd y gêm yn debycach fyth i'r un wythnos yn ôl oherwydd fe gafodd Bangor un yn ôl o fewn dau funud i'r ailddechrau.

Neil Thomas sgoriodd i'r pencampwyr y tro hwn, a'r hyn oedd yn wahanol am berfformiad Bangor oedd iddyn nhw ddal ati.

Daeth sawl cyfle i'r Dinasyddion ac fe darodd Peter Hoy y postyn cyn pen awr cyn i Les Davies orfodi arbediad da gan Harrison.

Ond ofer oedd yr ymdrechion, ac mae Bangor wedi colli dwy yn olynol yn dilyn rhediad o saith buddugoliaeth. Dim ond tri phwynt sy'n gwahanu'r tri uchaf erbyn hyn.

Canlyniadau'r penwythnos :-

Nos Wener:

Llanelli 1-2 Castell-nedd

Bala 3-0 Prestatyn

Caerfyrddin 1-0 Port Talbot

Dydd Sadwrn:

Bangor 1-3 Y Seintiau Newydd

Y Drenewydd 1-1 Aberstwyth

Airbus UK Brychdyn 1-1 Lido Afan

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol