Gwasanaeth diwifr 4G yn 'trawsnewid' cefn gwlad

  • Cyhoeddwyd
FfônFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un ffermwr y byddai gwasanaeth 4G o fudd i amaethwyr mewn ardaloedd gwledig

Mae'r bwriad i gyflwyno gwasanaeth diwifr 4G yn mynd i "drawsnewid" cymunedau gwledig Cymru lle mae darpariaeth wael neu ddim o gwbl.

Yn ôl Ofcom Cymru, fe fydd busnesau ac unigolion ar eu hennill.

Ar Faes y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth mae 'na drafodaeth am sut i wella'r ddarpariaeth band eang ac mae'r corff rheoleiddio Ofcom ac Undeb Amaethwyr Cymru yn cynnal digwyddiad.

Dywedodd Ofcom y byddai 80% yn fwy o sbectrwm yn cael ei werthu o'i gymharu â 3G ac y byddai band eang symudol ar gael i o leiaf 98% o'r DU.

Y gobaith yw y bydd cwsmeriaid yn dechrau derbyn y gwasanaeth yn 2013.

Er mwyn sicrhau bod defnyddwyr yn parhau i "allu manteisio ar farchnad gystadleuol," mae Ofcom wedi penderfynu neilltuo rhywfaint o'r sbectrwm ar gyfer pedwerydd cyfanwerthwr.

Felly, er budd cystadleuaeth, mae Ofcom wedi penderfynu neilltuo rhywfaint o sbectrwm yn yr ocsiwn ar gyfer pedwerydd gweithredwr, megis Hutchinson 3G neu newydd-ddyfodiad.

"Mae'r arwerthiant 4G er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl i ddefnyddwyr a dinasyddion ar draws y DU," meddai Ed Richards, Prif Weithredwr Ofcom.

'Yn wael'

"O ganlyniad uniongyrchol i'r mesurau ..., bydd defnyddwyr yn gallu syrffio'r we, llifo fideos, a llwytho atodiadau e-bost i lawr ar eu dyfais symudol o bron pob cartref yn y DU."

Un sy'n gobeithio manteisio ar y gwasanaeth newydd yw Nick Fenwick fagwyd ar fferm fynyddig yn Llanbrynmair, Powys.

"Mae'r signal yn wael iawn ac fe fydd gwasanaeth 4G o fudd i ni o ran busnes yn ogystal â phleser.

"Ac mae'r diwydiant amaethyddol yn dod yn fwyfwy dibynnol ar wasanaethau ar ffonau arbennig fel yr apps.

"Mae'n ail natur i bobl ifanc ddefnyddio a bod yn ddibynnol ar y ffôn symudol."

Bydd yr arwerthiant 4G yn cynnig o leiaf ddau fand sbectrwm - 800 MHz a 2.6 GHz.

A bydd yn cynnig capasiti i ymdopi â'r galw sylweddol mewn canolfannau trefol.

£22.5 biliwn

Y tro diwethaf y cafodd ocsiwn ar gyfer 3G ei chynnal yn 2000 fe gafodd £22.5 biliwn ei godi ar gyfer y Trysorlys.

Mae Ofcom yn bwriadu cynnal yr ocsiwn cyn gynted â phosib.

Disgwylir y bydd gweithredwyr symudol yn dechrau cyflwyno'r rhwydweithiau 4G, gan ddefnyddio'r sbectrwm yn yr arwerthiant o ganol 2013 ymlaen a dechrau cynnig gwasanaethau 4G i ddefnyddwyr nes ymlaen y flwyddyn honno.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol