Nofel strêt yn swyno beirniaid 'Y Daniel'

  • Cyhoeddwyd
Robat Gruffudd
Disgrifiad o’r llun,

Robat Gruffudd: 'Mae'r broses 'sgwennu yn un unig iawn, iawn'

Yr awydd i greu yr hyn a alwodd yn "nofel strêt" a barodd i Robat Gruffudd gystadlu am Wobr Goffa Daniel Owen yn Llandŵ eleni.

"Y gwir yw fy mod i'n anhapus 'da'r nofelau rwyf wedi'u sgrifennu, rhai gwleidyddol, dychanol, ac roeddwn i eisiau trio nofel strêt gyda chymeriadau, plot, cefndir diddorol a thensiwn ac elfennau fel yna," meddai mewn cyfarfod gyda'r Wasg wedi'r seremoni wobrwyo.

"Roeddwn i jyst eisiau 'sgwennu nofel yn syth i lawr y canol a fyddai'n apelio at bobl a phrofi i mi fy hun fy mod yn gallu'i wneud e," ychwanegodd.

Nid oes amheuaeth iddo lwyddo yng ngolwg y tri beirniad, Sioned Williams, Gareth F Williams a John Rowlands a ddisgrifiodd, wrth draddodi'r feirniadaeth, awdur Afallon fel "nofelydd clyfar" a roddodd fri ar y gystadleuaeth.

'Unig iawn'

Dywedodd Robat iddo ddechrau sgrifennu Afallon tua phedair blynedd yn ôl.

"Mae'r broses 'sgwennu yn un unig iawn, iawn ac mi golles i rai blynyddoedd a doeddwn i byth yn siŵr os oedd y nofel yma yn mynd i lwyddo ond yr oeddwn yn hapus iawn o weld bod y beirniaid yn hoffi'r nofel a bod y cynnig wedi cael ei gyfiawnhau mewn ffordd," meddai.

Er iddo geisio troi ei gefn ar ddychan gwleidyddol cyfaddefodd: "Wrth gwrs mae'n anochel bod fy syniadau i yn dod i mewn i'r gwaith ac os byddwch yn darllen y nofel fe fyddwch yn gweld elfennau gwleidyddol ac yn y blaen."

"Mae'n anodd iawn dweud pam yn union y gwnes ei 'sgwennu.

"Mae rhywbeth yn gwbl wallgo ynglŷn â'r broses o 'sgwennu. Does neb call yn 'sgwennu nofel."

Yn ogystal â gofynion y gystadleuaeth o elfen storïol gref dywedodd fod elfen iasoer a serch ynddi hefyd.

"Ac y mae Abertawe ynddi yn eithaf cryf gyda'r rhan fwyaf o'r golygfeydd yn digwydd mewn tafarndai a thai bwyta yn Abertawe," meddai.

'Cymhlethu'

Mae'r stori yn ymwneud â Rhys John, dyn busnes canol oed yn dychwelyd i Abertawe i setlo'i lawr ar ôl blynyddoedd dramor.

Cwch y mae wedi ei brynu yw Afallon y teitl.

"Dyw pethau ddim yn gweithio mas fel y dymunai fodd bynnag gydag Americanes ddeniadol mae'n cwrdd â hi ar y traeth yn cymhlethu pethe," meddai Robat. Cyfarfyddiad y ddau yw testun y bennod gyntaf.

Dywedodd fod y nofel hefyd yn ymdriniaeth o Gymru fel Afallon.

O lwyfan yr Eisteddfod pentyrrodd John Rowlands ganmoliaeth ar y nofel fel un afaelgar, hawdd ei darllen sy'n dangos "dyfnder seicolegol" a gwleidyddol.

Canmolodd yr awdur am guddio "yn glyfar iawn" yr hyn a alwodd yn "elfen bregethu" fel y gellid darllen y nofel er mwyn y stori yn unig.

"Dyma nofel raenus ei Chymraeg. Ceir portread deallus o Abertawe, o gefndir teuluol Cymraeg Rhys, a hefyd o Berlin a lleoedd eraill," meddai.

"Y bonws i mi oedd bod nifer o lefelau i'r nofel hon a'i bod yn taro deuddeg yn ddigon cyson i haeddu'r wobr," meddai.

'Cynllunio'

Soniodd am ei benderfyniad i roi y £5,000 o wobr i'r mudiad newydd Dyfodol yr Iaith sefydlwyd gan ei frawd Heini ymhlith eraill.

"Mae'n bwysig bod yr iaith yn cael ei hystyried yn y broses gynllunio," meddai gan gyhuddo gweision sifil o Loegr o roi targedau "cwbl wallgof' ar gyfer codi tai yn siroedd Cymru.

"Ac mae tai cymdeithasol yn bwysig iawn, bod y system yn ffafrio pobl leol a Chymry a dyna ran o waith Dyfodol," meddai.

"Rhan arall yw creu polisïau sy'n edrych ar yr iaith o safbwynt economaidd er enghraifft. Dwi'n credu bod yn rhaid creu swyddi mewn ardaloedd arbennig er mwyn cryfhau'r iaith ar lefel gymunedol.

"Mae'r pwyslais wedi bod i gyd ar statws … a phethau reit arwynebol. Dwi'n credu mai rhan o syniad Dyfodol i'r Iaith yw gweld yr iaith mewn persbectif ehangach, economaidd a chymdeithasol. Mae hynny'n bwysig," meddai.

Dywedodd fod y cyfnod presennol yn un "tyngedfennol" a'i fod yn gobeithio y bydd ei rodd ef yn esiampl i eraill.

Disgrifiad,

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen