Gollwng cemegau ar stad ddiwydiannol
- Cyhoeddwyd
Fe gafodd trigolion ger stad ddiwydiannol gyngor i aros yn eu cartrefi a chau drysau a ffenestri wrth i ddiffoddwyr geisio rheoli gollyngiad o gemegau mewn ffatri fwyd ar y stad.
Cafodd saith injan dân eu gyrru i Stad Ddiwydiannol Llangefni am 9:09pm nos Lun gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi i nwy amonia ollwng o ffatri yno.
Bu heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans yn bresennol hefyd ynghyd â thri cherbyd arbenigol y gwasanaeth tân.
Llwyddodd y gwasanaeth tân i reoli'r gollyngiad, gan adael y safle am 2:45am fore Mawrth.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth tân bod y gollyngiad wedi digwydd mewn safle "sy'n ymwneud â bwyd".
Ychwanegodd: "Mae diffoddwyr yn gwisgo dillad arbennig ac offer anadlu wedi llwyddo i ganfod tarddiad y gollyngiad a'i atal, gan wasgaru'r nwy gan ddefnyddio dŵr a chadw'r gollyngiad o fewn y safle.
"Cafodd trigolion lleol gyngor i aros dan do a chau eu drysau a'u ffenestri."