Tywydd: 6,000 heb drydan
- Cyhoeddwyd
Bu dros 6,000 o gwsmeriaid yng ngogledd Cymru heb gyflenwad trydan yn dilyn noson arall o eira.
Dywed cwmni Scottish Power eu bod yn credu fod coeden wedi disgyn ar wifrau yn ardal Llangollen, ac yn effeithio ar gwsmeriaid yn Nyffryn Dyfrdwy.
Belach dywed y cwmni bod y cyflenwad yn ôl i'r mwyafrif, ond bod 2,500 o gwsmeriaid yn parhau heb drydan brynhawn Sadwrn.
Yn Llangollen y mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid sydd heb drydan, ond mae pocedi o gwsmeriaid mewn rhannau eraill hefyd yn diodde'.
Mae eira pellach wedi disgyn dros nos, gan olygu bod mwy o ffyrdd wedi cau.
Mae'r eira hefyd wedi symud ychydig i'r de gan effeithio ar rannau o Bowys a chymoedd Gwent.
Mae'r gwasanaethau brys yn rhybuddio bod amodau gyrru yn anodd a pheryglus mewn mannau, ac yn dweud y dylai pobl ond deithio os yw hynny'n gwbl angenrheidiol.
Mae nifer o ffyrdd yng Ngwynedd ar gau ddydd Sadwrn, gan gynnwys:-
A4212 - Trawsfynydd i'r Bala;
B4391 - Lon y Berwyn yn Llandderfel ;
Lon y Mignant - Blaenau Ffestiniog i'r A4212 ;
A4086 - Nant Peris i Ben-y-Pas.
Siroedd eraill
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn annog pobl yn ne'r sir i deithio ond os oes angen gwirioneddol i wneud hynny.
Mae eira trwm yn parhau i effeithio'r rhanbarth. Mae'r A525 i Landegla a'r A494 i Gorwen (o gyfeiriad Rhuthun) yn parhau ar agor. Fodd bynnag, mae nifer o ffyrdd i dde'r sir ar gau o ganlyniad i'r tywydd gaeafol.
Mae prif ffyrdd A a B i'r Gogledd o Rhuthun ar agor, ond eto mae gofyn i fodurwyr gymryd gofal. Mae timau o staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddi-dor mewn amgylchiadau ofnadwy i geisio gadw ffyrdd y sir ar agor.
Ond mae maint yr eira sydd wedi disgyn, yn ogystal a lluwchfeydd wedi gwneud y gwaith yn anodd. Mae gofyn i drigolion fonitio bwletinau newyddion a thywydd am y wybodaeth ddiweddaraf, gan fod disgwyl rhagor o eira heddiw.
Fe ddywed Cyngor Sir y Fflint eu bod wedi bod yn gweithio 24 awr i glirio'r eira gyda 13 o beiriannau graeanu a 36 o beiriannau eraill yn trin a chlirio'r ffyrdd.
Mae modd teithio ar y priffyrdd i gyd gyda gofal, ond yn parhau yn anodd gyda choed sydd wedi disgyn yn achosi trafferthion ar rai ffyrdd.
Fe welwyd nifer o wrthdrawiadau ar ffyrdd yn y canolbarth dros nos hefyd, ac fe gludwyd un person i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A458 rhwng Y Trallwng a Llanfair Caereinion ym Mhowys am tua 1:20am fore Sadwrn.
Gallai rhannau o Gymru weld y trwch mwya' o eira ar gyfer mis Mawrth ers 30 o flynyddoedd, ac mae 'na rybudd y gallai eira lithro oddi ar lethrau Eryri.
Roedd y gwyliau Pasg wedi dechrau diwrnod ynghynt i nifer o ddisgyblion ddydd Gwener, gyda dros 200 o ysgolion wedi cau.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi israddio'r rhybudd oren yn y goledd i un melyn, ond er hynny mae disgwyl mwy o eira ac fe fydd y tymheredd hefyd yn disgyn yn sylweddol gan achosi risg gan rew.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn annog pawb heblaw'r dringwyr mwyaf profiadol i gadw oddi ar y mynyddoedd uchaf dros y Pasg oherwydd y tywydd drwg.
Daeth y rhybudd wrth i Dîm Achub Mynydd Llanberis gyhoeddi lluniau o gyrch ar Yr Wyddfa ddydd Iau, pan fu'n rhaid achub dynes 41 oed a'i mab 17 oed oddi ar y mynydd.
Hefyd bu'n rhaid achub pedwar llanc yn eu harddegau a'u hyfforddwr wedi iddyn nhw fynd yn sownd yn eu bws mini ar ffordd fynyddig nos Iau.
Aeth Tîm Achub Mynydd Longtown o'r Fenni i gynorthwyo'r pump ar ffordd Bwlch yr Efengyl rhwng y Fenni a'r Gelli Gandryll.
Cafodd y llanciau o Bont-y-pŵl eu cludo yn ôl i Ganolfan Awyr Agored Cusop lle'r oedden nhw'n aros.
Yn ôl Rhian Haf, o adran dywydd BBC Cymru, dyw hi ddim yn anarferol i gael eira ym mis Mawrth.
"Da ni'n llawer mwy tebyg o gael eira adeg y Pasg nag ydan ni adeg y Dolig, gan fod y gwynt yn fwy tebyg o chwythu o'r dwyrain, yn dod ag aer oer iawn o gyfeiriad Scandinafia a Rwsia," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2013