Symud Tŷ - cartref newydd Vaughan Roderick ar y we.

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi'n hoffi'r diwyg newydd? Do, ni wedi ail-addurno'r hen le yma. Dyw pethau ddim cweit wedi eu cwblhau eto. Nid yw'r system sylwadau yn gweithio ar hyn o bryd. Fe ddaw!

Mae symud i'r cartref newydd hwn wedi golygu meistroli rhaglen gyfrifiadurol arall eto - un o'r llwyth sy'n cael ei defnyddio yn fy musnes i.

O leiaf mae'r enw ar yr eicon "Content Production System" yn awgrymu beth yw ei phwrpas. Mae gan rhai o'r rhaglenni eraill enwau rhyfedd fel "Elvis" "BigTed" "Jupiter" a "Davina"! Does gen i ddim clem at beth mae hanner y rheiny'n dda!

Roedd pethau'n wahanol iawn pan ddechreuais i yn y busnes yma. Y "teleprinter" oedd y peth mwyaf soffistigedig yn ystafell newyddion y BBC ar y pryd. Rwy'n cofio rhyfeddu y tro cyntaf i mi weld peiriant ffacs. Yn Eisteddfod Casnewydd yn 1988 oedd hynny. Beth ddigwyddodd i'r peiriant ffacs, dywedwch?

Mae'r byd bach yma'n newid yn rhyfeddol o gyflym ac mae'n iaith fach ni'n ei chael hi'n anodd i gadw i fyny weithiau ond ta beth - rwyf yma o hyd ac yn crafu fy mhen yn ceisio meddwl am rywbeth o sylwedd i sgwennu!