Dros y Fenai fawr i Fôn
- Cyhoeddwyd
Mae'r broses o symud y blog wedi bod yn rhwystredig i mi gan fod 'na hen ddigon o bethau i ysgrifennu yn eu cylch, mae 'na bethau difyr wedi bod yn digwydd yn y Cynulliad, mae'n dymor cynadleddau ac mae'n wythnos etholiad y tu hwnt i Glawdd Offa ac ar yr ochr arall i'r Fenai.
Y peth cyntaf i ddweud am y rheiny yw bod rhan gyntaf cynllun Carl Sargeant wedi gweithio. Hanfod y cynllun oedd symud o system o wardiau un aelod i system o wardiau aml-aelod. Y bwriad oedd rhoi mantais etholiadol i'r pleidiau gwleidyddol.
Dyw hi ddim amhosib i ymgeiswyr annibynnol ennill seddi o dan y drefn newydd ond mae'n llawer anoddach iddyn nhw wneud hynny heb ffurfio rhyw fath o egin blaid neu bleidiau annibynnol - tebyg i'r rheiny sy'n bodoli ym Mhowys. Y Montgomery Independent Group a'r Powys Independent Group yw'r rheiny neu'r MIGs ar PIGs ar lafar gwlad. Efallai y gwelwn Foch Môn rhyw ddydd!
Mae'r pleidiau wedi ymateb i'r drefn newydd trwy enwebu ystod eang o ymgeiswyr a gallwn ddweud i sicrwydd fod dyddiau yr etholiad diwrthwynebiad ar ben ar Ynys Môn, ar lefel sirol o leiaf.
Ydy'r broses wedi llwyddo felly? Ddim eto. Mae'n ddiddorol nad yw Carl Sargeant wedi cyhoeddi pryd yn union y bydd gwaith y Comisiynwyr a gymerodd yr awenau ym mhencadlys y cyngor yn dirwyn i ben. Rwy'n tybio ei fod am weld plaid neu glymblaid fwyafrifol yn dewis cabinet a llunio rhaglen cyn i hynny ddigwydd.
Mae'n anodd credu na fydd hynny'n digwydd yn weddol o handi - ond cofiwch son am gyngor Ynys Môn ydyn ni!