Tân ar yr aelwyd
- Cyhoeddwyd
- comments
Peidiwch â meddwl fy mod wedi bod yn gwneud dim yn y cyfnod bach hesb diweddar pan oeddwn yn ceisio cael technoleg y safle newydd i weithio. Roedd gen i hen ddigon i 'w wneud ar gyfer radio a theledu wrth reswm ac os oedd na ambell i awr sbâr wel fe lwyddodd y Llyfrgell Genedlaethol i lenwi'r rheiny trwy lansio ei harchif ddigidol o bapurau a chylchgronau.
Achubais ar y cyfle i bori trwy golofnau'r "Llwynog o'r Graig" yn Nharian y Gweithiwr - colofn sy'n rhoi darlun byw a doniol o gybydd-dod y meistri a thrahausdra'r fformyn yn y diwydiant glo yng Nghwm Cynon yn oes Fictoria. Tad y diweddar S.O Davies Aelod Seneddol hirhoedlog Merthyr oedd y Llwynog dienw.
Roeddwn i wedi dod ar ei draws ym mywgraffiad Robert Griffiths o S.O a nawr dyma fi yn cael darllen ei waith a hynny heb symud o fy nesg. Diolch, Llyfrgell Gen a diolch Llywodraeth Cymru am ariannu'r gwaith.
Rai wythnosau yn ôl des i ar draws dwy gyfrol fechan o farddoniaeth yn llawysgrifen Gwilym Eilian - bardd cymharol ddi-nod o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y cerddi'n gymysgedd o englynion, cerddi coffa a baledi ynghylch damweiniau ym mhyllau glo dwyrain Morgannwg a Mynwy.
Doedden nhw ddim i gyd yn gerddi arbennig o dda ond roedd 'na ryw bleser o wybod mai fi oedd y person cyntaf mewn tri chwarter canrif neu fwy i'w darllen nhw. Roeddwn yn teimlo teimlad o ddyletswydd hefyd - dyletswydd i sicrhau eu bod ar gael i eraill ymhen canrif arall. Bant â nhw i Aberystwyth felly. Diolch Llyfrgell Gen.
Mae'n anodd disgrifio'r teimlad pan gerddais allan o'r stiwdio ar ôl cyflwyno "O'r Bae" wythnos ddiwethaf a gweld y geiriau "Tân yn y Llyfrgell Genedlaethol" yn fflachio ar sgrin y cyfrifiadur. Dydw i ddim am eiliad yn cymharu'r ddau ddigwyddiad ond roedd y teimlad yn ddigon tebyg i'r hyn a deimlwn ar 911 - rhyw gymysgedd o sioc, anghredinedd ac arswyd. Rwy'n sicr nad fi oedd yr unig un oedd yn teimlo felly.
Yn ôl yn nyddiau cynnar newyddiaduraeth deledu Cymraeg yn nyddiau Teledu Cymru a TWW enillodd "Y Dydd" ei phlwy gyda chyfres o eitemau ynghylch bwriad yr Eglwys Bresbyteraidd i werthu a gwasgaru llyfrgell Coleg y Bala. Dwn i ddim a lwyddodd "Y Dydd" i wel... achub y dydd na beth ddigwyddodd ychwaith i lyfrgelloedd Coleg Coffa Aberhonddu, Bala-Bangor, Abertawe a'r gweddill.
Yn sicr erbyn heddiw, y Llyfrgell Genedlaethol yw prif drysorfa'r hyn oedd yn cael ei disgrifio fel y "Genedl Anghydffurfiol Gymreig". Mae hynny'n addas. Y genedl honno oedd yn gyfrifol am fodolaeth y lle.
Mae 'na drysorau eraill ar Allt Penglais - gormod i'w rhestri yn fan hyn. Fe fyddai diwylliant Cymru'n dlawd iawn hebddynt.
Mae hynny'n dod a fi yn ôl at y prosiect digideiddio. Diolch byth diffoddwyd tân wythnos ddiwethaf ac rwy'n sicr bod gan y Llyfrgell y systemau gorau posib i ddiogelu ei chasgliad. Ond dyw hi ddim yn bosib diogelu unrhyw beth yn llwyr - neu yn hytrach doedd hi ddim yn bosib gwneud hynny tan yn ddiweddar iawn.
Y dyddiau hyn gallai casgliad cyfan ddiflannu mewn cymylau o fwg ond gan barhau i fodoli mewn cwmwl o ddigidau. Mae 'na resymau da eraill da dros ddigideiddio casgliad ein Llyfrgell Gendlaethol ond roedd y tân yn tanlinellu'r rheswm pwysicaf.