O sôn am Fôn...
- Cyhoeddwyd
Dydw i ddim yn cofio pwy yn union wnaeth geisio colbio David Williams wrth iddo lunio adroddiad ynghylch cyflwr Cyngor Môn. Rwy'n meddwl bod y gwron wnaeth daflu dwrn at gyn Olygydd Gwleidyddol y BBC yn gynghorydd - a chan fod David yn gweithio i HTV ar y pryd mae'n debyg bod y peth wedi digwydd pymtheg os nad ugain mlynedd yn ôl. Ydyn, mae problemau Cyngor Môn wedi para cyhyd a hynny!
Dyw dyfodol gwleidyddol y Cyngor ddim wedi ei setlo eto. Mae Plaid Cymru yn ymddangos yn dawel hyderus ynghylch cyrraedd cytundeb â'r aelodau Llafur. Fe fyddai hynny'n ddigon i sicrhau pymtheg o bleidleisiau yn siambr y Cyngor - union hanner aelodau'r Cyngor. Anodd credu na fyddai Cadeiryddiaeth y Cyngor yn ddigon o abwyd i fachu aelod o'r rhengoedd annibynnol a thrwy hynny sicrhau mwyafrif i'r glymblaid.
Mae 'na bosibiliadau eraill. Gwn fod y Democrat Rhyddfrydol Aled Morris Jones wedi bod yn trafod gyda rhai o'r cynghorwyr annibynnol. Fe fyddai cytundeb rhwng y rheiny hefyd yn cyrraedd y pymtheg pleidlais er nad yw cynghorwyr annibynnol Môn yn enwog am eu gallu i gydweithio a'i gilydd. Ond pe bai hynny'n digwydd mae'n anodd gweld sefyllfa lle fyddai Plaid Cymru na Llafur yn genedlaethol yn fodlon caniatáu unrhyw drefniant ynghylch y Gadeiryddiaeth fyddai'n rhoi grym yn nwylo'r cynghorwyr annibynnol.
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n werth cofio bod gan Lywodraeth Cymru coblyn o bastwn yn ei llaw. Dyw'r Comisiynwyr a fu'n rhedeg y Cyngor ddim wedi gadel yr ynys eto ac oni cheir trefniant sy'n dderbyniol i'r Llywodraeth dydyn nhw ddim yn debyg o fynd.
Un peth arall am ganlyniadau Cyngor Môn. Ar ôl buddsoddi'n helaeth yn y ras tila oedd gwobr y blaid Lafur. Dyw tair sedd ddim hyn dyn oed yn ddigon i ffurfio grŵp swyddogol ar y Cyngor.
Ar ôl dweud hynny os oedd canlyniadau Llafur yn siom roedd rhai'r Ceidwadwyr yn drychineb. Doedd y blaid ddim yn agos at ennill sedd. Dyma oedd gan Andrew R.T. Davies i ddweud yn ei gynhadledd newyddion heddiw - "Fe wnaethon ni fethu cyfathrebu'n effeithiol a'r etholwyr. Mae'n rhaid i chi gael ymgyrch. Mae'n rhaid i chi gael neges ac mae'n rhaid i chi gyfathrebu'r neges honno."
Mae'n ddiddorol nodi bod y Ceidwadwyr ac Ukip ym Môn wedi penderfynu enwebu ymgeiswyr sengl mewn wardiau aml aelod. Roedd hi'n ddigon posib felly i gefnogwyr Ukip fwrw ail bleidlais dros y Ceidwadwyr. Yn ôl fe nghydweithwyr oedd yn y cyfri ychydig iawn wnaeth ddewis gwneud hynny. Mae hynny'n newyddion gwael iawn i'r Ceidwadwyr gan awgrymu nad dadrithiad na phrotest dros dro sydd wrth wraidd twf Ukip ond rhywbeth llawer mwy sylfaenol.