Gemau heb ffiniau - y Ceidwadwyr ac Ewrop

  • Cyhoeddwyd

Ble mae dechrau, dywedwch?

Dwn i ddim pa chwilen feddyliol sy'n peri i Aelodau Seneddol Ceidwadol ymddwyn fel maen nhw pan ddaw hi'n fater o Ewrop. Hon yw'r grachen sy'n rhaid ei chodi a'r ploryn sy'n mynnu cael ei wasgu er bod bron pawb yn gwybod na ddaw dim byd da o'r weithred.

Rwy'n tybio bod Aelodau Seneddol Ceidwadol yn ymwybodol o'r peryglon ond pwy a ŵyr mewn gwirionedd? Dyw rhesymeg, synnwyr ac Ewrop ddim bob tro yn cydorwedd yn gysurus ar y meinciau Ceidwadol.

Gadewch i ni oedi am eiliad a myfyrio ynghylch pa mor rhyfedd yw'r digwyddiadau yn San Steffan.

Yn gyntaf mae'n debyg taw dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol a'r gwrthbleidiau fydd yn pleidleisio yn erbyn cynnig sy'n gresynu ynghylch cynnwys araith y Frenhines. Ie, dyna chi, fe fydd Aelodau Seneddol Ceidwadol naill ai'n ymatal neu'n pleidleisio o blaid cynnig sy'n beirniadu rhaglen eu llywodraeth eu hun.

Doedd hyd yn oed caniatáu hynny ddim yn ddigon i ddofi'r bwystfil Ewrosgeptig. Mae David Cameron yn awr wedi gorfod addo drafft fesur a fyddai'n ymgorffori refferendwm yn 2017 mewn deddfwriaeth.

Nawr anghofiwch am eiliad pa mor annhebyg yw'r drafft fesur o gyrraedd y llyfr statud o gofio mai aelod meinciau cefn fyddai'n gorfod ei gyflwyno. Y cwestiwn diddorol i mi yw hwn: pam fod awch ar y meinciau cefn i sicrhau deddf o'r fath o gwbl?

Go brin fod y rhan fwyaf o'r aelodau Ceidwadol yn credu y byddai David Cameron yn torri ei air ynghylch refferendwm pe bai'r blaid yn ennill mwyafrif yn 2015. Fe fyddai gwneud hynny'n hunanladdiad gwleidyddol.

Yn hytrach ymgais i glymu dwylo David Cameron mewn trafodaethau clymblaid yw'r mesur gyda'r bonws o roi pwysau ar Lafur i wneud addewid tebyg i un Cameron.

Maer hynny'n gadael ni â chwestiwn arall. Ydy Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr yn dechrau amau bod mwyafrif yn 2015 y tu hwnt i'w cyrraedd?

Maen ymddangos felly. Pa gasgliad arall sy 'na?