S.O.S Galw Leighton Andrews

Hawdd yw dwedyd, "Dacw'r Wyddfa," —: Ni eir trosti ond yn ara'."

Hawdd hefyd yw llunio darlun o'r gwasanaeth iechyd y mae ein gwleidyddion i gyd yn deisyfu ei greu. Fe fyddai'n wasnaeth diogel cyn agosed at y claf a phosib gyda mwy o drinaiethau'n cael eu cyflawni yn y cartref neu'r gymuned a llai yn yr ysbytai.

Haws dweud na gwneud. Mae 'na sawl rheswm am hynny. Yn gyntaf mae trwch defnyddwyr y gwasnaeth a theimlad o berchnogaeth dros eu gwasnaethau lleol yn enwedig eu hysbyty lleol. Nid drwg o beth yw hynny ond mae'n golygu bod angen llawer o waith argyhoeddi cyn cyflwyno newid - unrhyw newid.

Haws yw gwneud hynny mewn cyfnod lle nad yw arian yn brin. Roedd 'na ymgyrch i 'achub' Ysbyty'r Glowyr yng Nghaerffili ond wrth i bobol Cwm Rhymni weld Ysbyty Ystrad Fawr yn cael ei ddatblygu edwino bu ei hanes.

Yr yr un modd go brin fod bron unrhyw un wedi gwrthwynebu gweld safle hen Ysbyty Dwyrain Morgannwg yn diflannu o dan gampws Gartholwg ac adeiladu newydd sbon Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu codi ar gyrion Llantrisant.

Roedd yr ysbyty mewn safle mwy cyfleus i'r dalgylch ac yn fuan fe blethodd ei ffordd i mewn i fywyd yr ardal.

Jôc gyffredin yn yr ardal yw cyfeirio at yr ysbyty fel "The Camilla" hynny oherwydd ei fod wedi dod rhwng y "Prince Charles" a'r "Princess of Wales". Dyna wrth gwrs yw ei broblem.

Wrth geisio lleihau'r nifer o ganolfannau Damwain ac Argyfwng mae'r hen Gamilla yn ymgeisydd amlwg i wynebu'r fwyell. Dyna o leiaf yw barn y rhai a fu'n adolygu'r gwasanaeth.

Llywodraeth Cymru wnaeth gomisiynu'r adolygiad gan fynnu bod 'na hyd braich rhyngddo a'r gwleidyddion.

Serch mae 'na rywbeth braidd yn rhyfedd mewn gweld Leighton Andrews, sy'n aelod o'r cabinet wedi'r cyfan, yn ymuno a'r aelodau Llafur lleol eraill i lansio ymgyrch yn erbyn y cynlluniau.

Mae gan unrhyw Weinidog rôl ddwbl fel aelod o'r llywodraeth a chynrychiolydd ei etholaeth ac mae'r llinell yn gallu bod yn un anodd i droedio. Efallai ei bod yn cofio acrobatics geirol Cheryl Gillan wrth drafod effeithiau cynlluniau HS2 ar ei hetholaeth.

Mae Leighton ar dir digon cadarn ar hyn o bryd. Ceisiio dylanwadu ar benderfyniad terfynol yr adolygiad mae aelod y Rhondda. Mae hynny'n ddigon teg, er efallai yn ymddangos braidd yn rhyfedd.

Fe fyddai fe mewn sefyllfa llawer mwy lletchwith os oedd y cynlluniau yn cyrraedd desg y Gweinidog Iechyd yn eu ffurf bresennol.

Pe bai'r Gweinidog yn eu gwrthod gallai Leighton wynebu cyhuddiadau o ddefnyddio ei statws i ddylanwadu ar y penderfyniad.

Ond beth fyddai ymateb etholwyr Rhondda pe bai'r Gweinidog Iechyd yn cymeradwyo'r newid? A fyddai Leighton yn yr amgylchiad hwnnw yn ymddiswyddo neu a fyddai'n derbyn cydgyfrifoldeb fel aelod o'r cabinet gan wynebu'r posibilrwydd o ddifrod etholiadol?