Canu o'r un Caniedydd
- Cyhoeddwyd
- comments
Ar ôl etholiad 2011 pan enillodd Llafur union hanner y seddi yn y Cynulliad roedd sawl hen ben yn fodlon proffwydo y byddai Carwyn Jones yn hwyr neu'n hwyrach yn gorfod ffurfio clymblaid trwy droi naill ai at Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yn wir roedd rhai hyd yn oed yn awgrymu mai dyna oedd dymuniad y Prif Weinidog ond bod eraill yn y grŵp Llafur yn anniddig ynghylch y syniad. Byddai'r rheiny'n dysgu'n ddigon buan pa mor anodd oedd llywodraethu heb fwyafrif clir oedd yr awgrym.
Nid felly y bu pethau. Ac eithrio ambell i achlysur megis yr helyntion ynghylch y Budd-dal Treth Cyngor mae'r Llywodraeth wedi llwyddo i gael ei ffordd yn rhyfeddol o ddidrafferth. Methiant y gwrthbleidiau i gydweithio a chydlynu sy'n bennaf gyfrifol am hynny.
Fe fyddai'n hawdd beio arweinwyr y gwrthbleidiau am yr aneffeithlonrwydd cymharol ond y gwir amdani yw bod 'na ffactorau gwleidyddol amlwg sy'n gwneud cydweithio rhwng y tair plaid yn rhyfeddol o anodd ar hyn o bryd.
Mae'r Ceidwadwyr yn edrych dros eu hysgwyddau at Ukip wrth i etholiadau Ewrop agosáu. Yn realistig felly does dim dewis gan y Ceidwadwyr ond glynu at neges unoliaethol asgell dde. Mae hynny'n siwtio Democratiaid Rhyddfrydol y Cynulliad i'r dim wrth iddyn nhw geisio gwahaniaethu eu hun o'u clymbleidwyr Llundeinig.
O safbwynt Plaid Cymru gallai unrhyw gydweithio a'r Ceidwadwyr brofi'n wenwyn etholiadol. Fe fyddai pethau'n wahanol efallai os taw Plaid Cymru oedd y brif wrthblaid yn y Cynulliad hwn ond nid felly mae pethau.
Yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog heddiw cafodd y gwrthbleidiau gyfle i weld pa mor effeithiol y gallai cydweithio fod. Unwaith yn rhagor y cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau ysbyty oedd prif thema'r cwestiynnau.
Yn ôl ei arfer fe gyhuddodd Carwyn Jones y gwrthbleidiau o godi bwganod a gwneud honiadau di-sail. Mae'n dacteg sydd wedi profi'n effeithiol hyd yma. Nid heddiw.
Cyhuddodd y Prif Weinidog Leanne Wood o wneud honiad oedd, yn ei farn ef, "yn anwiredd, yn gamarweiniol ac yn anghywir" trwy ddweud y gallai Uned Ddamweiniau Ysbyty Brenhinol Morgannwg gau o ganlyniad i'r ad-drefnu.
Y broblem i Carwyn Jones yw bod nifer gwleidyddion Llafur gan gynnwys ei Weinidog Addysg ei hun wedi gwneud honiadau digon tebyg ac o fewn eiliadau roedd Darren Millar llefarydd iechyd y Ceidwadwyr ar ei draed yn gwneud yr union bwynt.
"You have just accused Leanne Wood of misleading the Assembly in respect of emergency services.
"Do you agree that your Labour colleagues, including a member of your own Cabinet are also misleading the Assembly, if you use the same yardstick, because in a press release, Leighton Andrews says A&E services are "disappearing" from the Royal Glamorgan Hospital, and Chris Bryant has described the A&E department there as "closing".
"Do you condemn their shroud-waving in the same way that you have condemned shroud-waving before in this Assembly when people scare-monger about the future of services in local hospitals?"
Am unwaith roedd 'na undod ar feinciau'r gwrthbleidiau wrth i aelodau'r tair plaid udo am ateb. Fe gafwyd un - o ryw fath ond am unwaith doedd Carwyn Jones ddim yn edrych yn gysurus ar ei draed. Doedd Chris Bryant ddim yn Weinidog meddai a doedd dim un aelod Llafur wedi awgrymu y gallai'r uned gau yn siambr y Cynulliad.
Un wennol ni wna wanwyn a dyw un ateb gwan ddim o reidrwydd yn cynrychioli trobwynt gwleidyddol. Serch hynny mae'n ymddangos bod diffyg undod yn y rhengoedd Llafur wedi arwain at ychydig o undod yn rhengoedd ei gwrthwynebwyr.
Gallwn ddisgwyl llawer mwy o hyn rhwng nawr a gwyliau'r haf. Ar ôl gaeaf hir mae pethau'n dechrau poethi yn y Bae!