Mwyafrifoedd a mwy
- Cyhoeddwyd
- comments
Wel, am ddiwrnod!
Mae pethau wedi bod yn ddi-stop yma yn y Bae heddiw gydag un datblygiad annisgwyl ar ôl y llall yn cyrraedd ein clustiau.
Dyna i chi'r helynt ynghylch Leighton Andrews ac Ysgol Gynradd Pentre yn y Rhondda, y cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i ffurfio ffrynt unedig wrth drafod y gyllideb gyda'r Llywodraeth a phenderfyniad y Llywodraeth i gyflwyno bil argyfwng i sefydlu cyfundrefn i bennu cyflogau ac amodau gwaith gweithwyr amaethyddol.
Oes 'na gysylltiad rhwng y tair stori? Efallai.
Yn sicr gellir cysylltu'r ddwy olaf. Mae'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymgais i rwystro'r Llywodraeth rhag gallu chwarae'r ddwy blaid yn erbyn ei gilydd yn ystod trafodaethau cyllideb.
Mae Carwyn Jones wedi cael amser digon hawdd trwy wneud dros y ddwy flynedd diwethaf. Os ydy Llafur yn methu ennill isetholiad Môn - a thrwy hynny mwyafrif, gallai'r ddwy flynedd nesaf fod yn anos.
Wrth gwrs tan yr is-etholiad mae gan Lafur fwyafrif ac fe fyddai sinigiaid yn dweud mai dyna'r rheswm dros gyflwyno'r bil argyfwng. Cafwyd cyhuddiadau i'r perwyl hwnnw gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod.
Wedi'r cyfan hwn yw'r tro cyntaf i gyfundrefn gael ei defnyddio lle fydd mesur yn cyrraedd y llyfr statud mewn tair wythnos - a hynny heb iddo gael ei graffu gan bwyllgor arbenigol. Llafur yn defnyddio neu gamddefnyddio grym ei mwyafrif felly.
Mae 'na esboniad posib arall. Fe fydd y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol yn diflannu yn yr hydref o ganlyniad i ddeddfwriaeth yn San Steffan. Gellir dadlau bod y Llywodraeth yn ceisio sicrhau bod 'na drefn newydd yn barod i fynd yng Nghymru pan fydd y Bwrdd yn diflannu. Cewch chi farnu pa esboniad sydd agosaf at y gwir.
Mwyafrif neu ddiffyg mwyafrif sy'n cysylltu'r ddwy stori felly, ond pa gysylltiad sy 'na a helynt Ysgol Pentref?
Ydy Leighton yn poeni am ei fwyafrif personol efallai? Fe fyddai hynny'n synnu llawer ond sut arall mae esbonio'i barodrwydd i beryglu ei berthynas agos a Carwyn Jones nid unwaith ond dwywaith?
Am yr eildro mewn ychydig wythnosau roedd y prif Weinidog yn edrych yn anghysurus yn ei sesiwn gwestiynau - a hynny oherwydd ei Weinidog Addysg.
Am faint y gall hyn barhau?