Talcen Caled
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n siŵr bod gwleidyddion, fel athrawon, wedi hen alaru gan bobl yn tynnu coes neu gwyno ynghylch hyd eu gwyliau. Fel ym mhob maes arall y gwir yw bod ambell i wleidydd yn fwy gweithgar a chydwybodol na'r llall. Serch hynny go brin y bydd unrhyw aelod o'r Cynulliad na'r Senedd yn diflannu am y cyfan o'r wythnosau hesb sydd o'u blaenau.
Dyw hi ddim yn ffasiynol y dyddiau yma i ganmol gwleidyddion ond gan fod fy mhroffesiwn i bron mor amhoblogaidd â'u un nhw does gen i ddim byd i golli!
Un peth y gall hen lawiau gwleidyddol o bob lliw gytuno yn ei gylch yw bod baich gwaith aelod etholedig wedi cynyddu'n ddirfawr dros y chwarter canrif ddiwethaf. Nid sôn am y ddeddfu na'r pwyllgora ydw i yn fan hyn ond y fath o "waith cymdeithasol" y mae etholwyr bellach yn disgwyl gan aelod.
Fe fyddai cenedlaethau blaenorol o wleidyddion yn rhyfeddu bod disgwyl i aelod ymgymryd â'r fath waith o gwbl.
Pan ofynnwyd i S.O. Davies, Aelod Seneddol Merthyr o 1934 hyd 1972 pam nad oedd yn cynnal cymorthfeydd yn ei etholaeth atebodd fel hyn;
"Bob bore Sadwrn mae Mr. S.O Davies yn cerdded i lawr Stryd Fawr Merthyr yn ei Homburg Hat ac o weld yr Homburg Hat gall unrhyw etholwyr ddod at Mr S.O. Davies i fynegi ei gwyn."
Oedd, roedd S.O yn cyfeirio at ei hun yn y trydydd person! Go brin y byddai unrhyw wleidydd yn beiddio bod mor grand â hynny'r dyddiau hyn!
Ond nid o'r gymhorthfa na'r Stryd Fawr y mae'r cynnydd yn y gwaith wedi dod ond o'r we. Mae pobl na fyddant byth bythoedd wedi mynd i gymhorthfa na danfon llythyr yn ddigon parod i gymryd ychydig o eiliadau i ddanfon e-bost gan ddisgwyl ymateb prydlon i'w sylwadau.
Erbyn hyn dyw hi ddim yn anarferol i wleidydd dderbyn cannoedd o e-byst gan ei etholwyr bod dydd. Fe fydd rhai yn ymwneud ac achosion personol cymhleth, eraill yn gwneud sylw neu ofyn cwestiwn ynghylch pwnc llosg ond rhaid yw eu hateb i gyd.
Wrth gwrs mae gan wleidyddion ymchwilwyr ac ysgrifenyddion i ymgymryd â pheth o'r gwaith - ond prin yw'r rheiny fyddai'n gadael ffawd eu gyrfaoedd yn nwylo'r gweision. Ar y lleiaf rhaid cadw llygad ar y pynciau ac achosion mwyaf sensitif.
Pan ddaw'r gwyliau mae 'na lwyth o bobl sydd angen eu cwrdd wyneb yn wyneb, ffeiri, gwasanaethau ac eisteddfodau i'w mynychu heb sôn am yr ystafell wely sydd angen ei baentio a'r lawnt sydd angen ei thorri!
Nawr dydw i ddim yn disgwyl i chi dorri'ch calonnau dros ein gwleidyddion. Nhw sy'n dewis mentro i'r maes ac mae'r tal yn ddigon anrhydeddus. Y cyfan fi'n dweud yw bod y jôcs gwyliau yna braidd yn annheg a phe bai gen i Homburg Hat ar ddiwedd tymor fel hyn byswn yn ei chodi i'r aelodau yn y Bae a San Steffan.