Gwylio'r Sêr

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Yfory fe fydd etholwyr Ynys Môn yn bwrw eu pleidleisiau i ddewis Aelod Cynulliad newydd. Ymhlith y cwestiynau y bydd yn cael eu hateb yn y ganolfan gyfri bydd hwn - ydy dewis ymgeisydd sydd eisoes yn adnabyddus o gymorth i blaid mewn etholiad? Mae'r record hanesyddol yn amwys.

Gadewch i ni edrych ar etholaeth De-ddwyrain Caerdydd i ddechrau. Pan alwyd Etholiad Cyffredinol 1964 mae'n debyg bod y Torïaid yn credu bod ganddynt gyfle go iawn i drechu Jim Callaghan - un o "fwystfilod mawr" y Blaid Lafur. 868 oedd y mwyafrif Llafur yn 1959. Siawns na fyddai gwthio'r ymgeisydd lleol, Michael Roberts, i'r neilltu a dewis seleb yn ei le yn rhoi ddigon o hwb i'r blaid gipio'r sedd?

Ted Dexter, capten tîm Criced Lloegr, oedd yr ymgeisydd delfrydol ym meddyliau strategwyr y blaid. Ildiodd hwnnw ei gapteniaeth a methu taith i Dde Affrica er mwyn ymladd y sedd. Ofer oedd yr ymdrech. Cynyddodd Jim Callaghan ei fwyafrif i 7,841. Efallai y byddai pethau wedi bod yn well bai gan Dexter rhiw gysylltiad â'r etholaeth neu â Chymru!

Dychwelodd Dexter at ei fat ac fe dderbyniodd Michael Roberts ei wobr yntau gan gael ei ethol yn Aelod Seneddol Gogledd Caerdydd yn 1970 a gwasanaethu yn y Senedd tan ei farwolaeth ddisymwth ar lawr Tŷ'r Cyffredin yn 1983.

Trodd Plaid Cymru i fyd y campau yn 1970 gan ddewis Carwyn James fel ei hymgeisydd yn Llanelli. Doedd Carwyn ddim eto wedi cyrraedd pinacl ei yrfa fel hyfforddwr Rygbi ond roedd e eisoes yn ddyn adnabyddus a phoblogaidd yn y cylch. Siomedig oedd y canlyniad o safbwynt ei blaid. Fe gynyddwyd y bleidlais - ond dim ond i'r un graddau a'r cynnydd cyffredinol a ddaeth yn sgil isetholiad Caerfyrddin.

Efallai ei bod hi braidd yn annheg i ddisgrifio Peter Hain fel seleb ond yn sicr pan ddewiswyd yntau fel ymgeisydd Llafur yn 1991 roedd eisoes yn ddyn adnabyddus. Fel ymgyrchydd gwrth-apartheid wnaeth geisio dinistrio teithiau gan dimau chwaraeon o Dde Affrica yr oedd Peter Hain yn enwog. Roedd hefyd wedi wynebu achos llys ar ôl i asiantaethau diogelwch Pretoria geisio ei fframio am ladrad arfog o fanc yn Llundain.

A fyddai ei gefndir yn cyfri yn ei erbyn yng Nghastell Nedd - etholaeth lle'r oedd rygbi yn ymylu ar fod yn grefydd? Dim ffiars o beryg. Enillodd yr is etholiad ar garlam.

Ar drothwy etholiad mae'n bwysig i mi fod yn weddol gytbwys rhwng y pleidiau ond rwyf wedi bod yn crafu fy mhen yn ceisio meddwl am seleb o blith ymgeiswyr y democratiaid Rhyddfrydol a'u rhagflaenwyr. Hynny yw, nes i mi gofio'r gwleidydd wnaeth droi'n "seleb"!

Lembit Opik oedd hwnnw wrth gwrs ac wrth iddo ymddangos yn fwyfwy aml ar y teledu ac ar dudalennau "Hello" ac "OK" grebachu gwnaeth y gefnogaeth iddo ym Maldwyn. Ai stranciau Lembit wnaeth arwain at golli cadarnle y Rhyddfrydwyr? Mae nifer o fewn y blaid yn credu hynny. Gwell gan Lembit feio Mick Bates - a phwy sydd i ddewud nad yw Lembit yn gywir? Gall alw Boris Johnston fel tyst!

Oes 'na gasgliad i hyn oll? Dim mewn gwirionedd - ac eithrio hwn efallai. Gyda chyfundrefn bleidleisio cyntaf i'r felin mae 'na hen ddigon o amser i'r etholwyr bwyso a mesur gwerth ymgeisydd. Gall llwyddiant mewn maes arall fod o gymorth i ymgeisydd mewn ymgyrch - ond mae angen sylwedd yn ogystal â steil