Y Gofeb Goll
- Cyhoeddwyd
- comments
Yn ôl y sôn un o'r cyfarfodydd mwyaf fflat yn yr Eisteddfod eleni oedd hwnnw a drefnwyd gan y tasglu sy'n ystyried dyfodol y brifwyl. Doeddwn i ddim yno ond hawdd yw dychmygu bod 'na deimlad yr holl beth yn weddol ddiystyr yn sgil ymadawiad Leighton Andrews o'r cabinet a datganiad Carwyn Jones y dylai'r Eisteddfod barhau i deithio i wahanol rannau o Gymru.
Ymlaen a ni felly i Sir Gâr, Maldwyn, Mynwy a mwy - a chyfle ym mhob lle i goffau a thrafod mawrion y cylch.
Yn Llanelli y mae maes Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf, er taw eisteddfod y sir gyfan yw hi i fod. Pwy fydd yn cael ei drafod yn honna, dywedwch?
Un a dylid ei goffau ond sydd wedi mynd yn angof rhywsut yw Jim Griffiths un o ffigyrau gwleidyddol pwysicaf Cymru'r ugeinfed ganrif.
Rwy'n fodlon dadlau taw Jim Griffiths yw'r ffigwr pwysicaf yn hanes y Blaid Lafur yng Nghymru. Oedd, roedd eraill yn bwysig ar lefel Brydeinig, Bevan a Kinnock yn eu plith, ond Griffiths oedd y gŵr wnaeth lwyddo i blethu at ei gilydd y glymblaid o etholwyr a alluogodd Llafur i ddominyddu gwleidyddiaeth Cymru am ddegawdau.
Hwn oedd y gŵr oedd yn gwybod sut oedd apelio at y Gymraeg a'r di-gymraeg, y gwladgarwyr a'r unoliaethwyr, y capelwyr a'r sosialwyr a'u huno y tu cefn i Lafur. Hwn hefyd oedd y dyn wnaeth ddilifro datganoli gan sicrhau fod gan yr egin Swyddfa Gymreig ystod eang o gyfrifoldebau.
Doedd e ddim yn ffigwr dibwys ar lefel Brydeinig chwaeth. Roedd yn ddirprwy arweinydd ei blaid ac ef hefyd oedd yn gyfrifol am gyflwyno mesurau lwfans teulu ac yswiriant cenedlaethol llywodraeth Attlee.
Nid bod ei record yn ddi-frycheuyn. Fel Ysgrifennydd y Trefedigaethau yn nechrau'r pumdegau roedd ôl ei law ar nifer o'r rhyfeloedd bach brwnt yr oedd Prydain yn ymladd ar y pryd.
Gall neb ddadlau nad yw Jim Griffiths yn ffigwr hanesyddol o bwys, eto beth sydd na i'w goffau o fewn ei etholaeth? Yr ateb syml yw dim byd - dim cerflun na chofeb nac, hyd y gwn i, enw ar stryd, adeilad nac ysgol. Mae rhyw gof gen i fod yna rhyw fath o gofeb yn Rhydaman ond o fewn yr etholaeth - dim byd.
Pam felly? Mae a wnelo'r peth llawer ac amseriad marwolaeth Jim Griffiths yn 1975, dybiwn i. Roedd y blaid newydd golli Caernarfon, Meirionnydd, Ceredigion a Chaerfyrddin ac roedd Neil Kinnock yn taranu yn erbyn cynlluniau datganoli ei blaid ei hun.
Hynny yw, bu farw Jim Griffiths yn ystod yr union gyfnod yr oedd y glymblaid a adeiladwyd ganddo yn dechrau datgymalu. I fawrion y Blaid Llafur Kinnockaidd roedd Jim Griffiths yn rhy Gymreig, yn rhy Gymraeg ac yn euog o gyfaddawdi a'r Cenedlaetholwyr.
Erbyn i ddatganolwyr Llafur adennill tir o fewn y blaid dau ddegawd yn ddiweddarach roedd y cof am Jim Griffiths eisoes wedi dechrau pylu. Roedd y cyfnod a'r cyfle i sefydlu darlith goffa neu godi cofeb wedi hen fynd.
Efallai oherwydd hynny ymhlith y Cymry Cymraeg rwy'n tybio bod hanes brwydr y Beasleys yn erbyn Cyngor Llafur Llanelli yn llawer mwy byw na'r cof am Jim Griffiths.
Mae gwendid y Blaid Lafur i'r gorllewin o afonydd Llwchwr a Chonwy mewn etholiadau Cynulliad wedi bod yn bryder cyson i Carwyn Jones ac i Rhodri Morgan o'i flaen.
Mewn gwirionedd doedd 'na ddim dirgelwch mawr ynghylch y peth. Mewn sawl ardal, yn haeddiannol neu'n anhaeddiannol, mae Llafur yn cael gweld fel plaid wrth-Gymraeg neu o leiaf fel plaid sy'n fodlon goddef pobol felly.
Fe fyddai defnyddio Eisteddfod 2014 fel man cychwyn i ymdrech i goffau Jim Griffiths yn fodd i Lafur atgoffa pobl bod 'na fwy nac un traddodiad o fewn y blaid. Ond hyd yn oed os nad oedd 'na gymhelliad gwleidyddol - onid yw Jim yn haeddu gwell gan ei blaid?