Mewn Undeb...

Dyw'r newyddion bod undeb y GMB am dorri ei gyfraniad i'r Blaid Lafur o £1.2 miliwn eleni i £150,000 flwyddyn nesaf ddim yn gymaint â hynny o syndod. Anodd yw credu nad oedd Ed Miliband wedi sylweddoli y byddai 'na bris i dalu am ei ymdrech i wanhau rôl hanesyddol yr undebau o fewn ei blaid.

Heddiw cafwyd rhagflas o'r hyn sydd i ddod. O gofio mae dim ond un aelod o bwyllgor gwaith y GMB wnaeth wrthwynebu'r toriad, mae'n debyg y gallwn ddisgwyl penderfyniadau digon tebyg gan undebau eraill.

Ond mae'r berthynas rhwng Llafur a'r undebau yn cynnwys llawer mwy na chyfraniadau i'r gronfa ganolog. Cymerwch restr tenantiaid rhif un, Heol y Gadeirlan, Caerdydd fel esiampl.

Undeb "Unite" sy'n berchen yr adeilad ond mae'n bencadlys Cymreig hefyd i'r TUC, BECTU, Equity a'r PCS. Yno hefyd ceir pencadlys Llafur Cymru, swyddfeydd plaid y Co-op yn ogystal â swyddfeydd etholaeth ambell i Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad.

Rwy'n cymryd bod y gwahanol denantiaid yn talu rhent i Unite - nid dyna'r pwynt. Y pwynt yw bod pobol a swyddfeydd y blaid a'r undebau yn gymysg oll i gyd. Gallasai ysgariad fod yn boenus ac yn anodd.

Nid cyfrannu at goffrau canolog y blaid yn unig mae'r undebau'n gwneud. Mae gwleidyddion unigol hefyd yn derbyn cymorth a nawdd.

Yr Aelod Cynulliad sydd wedi derbyn y swm fwyaf yn ystod y Cynulliad hwn yw aelod Pontypridd Mick Antoniw. Derbyniodd £5,000 o nawdd ar gyfer etholiad 2011 gan y GMB a £15,801 o "roddion, lletygarwch ac ati" gan y GMB a Unite.

Cyn i chi feddwl bod yr undebau wedi talu i Mick ddilyn y Llewod i Awstralia neu rywbeth cost cyngor cyfreithiol wrth iddo lunio ei fesur preifat ar asbestos oedd y rhodd hwnnw. Gan fod y mesur yn ymwneud yn uniongyrchol a lles rhai o'u haelodau gellir cymryd y bydd undebau'n parhau i wneud rhoddion felly yn y dyfodol. Mae'r nawdd etholiadol yn fater arall.

Pa aelodau cynulliad arall sydd wedi derbyn nawdd gan undebau?

Does neb mor ffodus â Mick Antoniw ond fe dderbyniodd Julie Morgan a Sandy Mewies £2,000 yr un gan "Unite" tra bod Rosemary Butler, John Griffiths, Edwina Hart, Huw Lewis a Lyn Neagle wedi derbyn £1,000 yr un gan yr un undeb. Dyw'r symiau hynny ddim yn enfawr ond dyw nhw ddim yn ddim byd chwaith. Fe fyddai angen mwy nac un ffair sborion i godi mil o bunnau!

Wrth gwrs yn achos y Cynulliad mae'n bosib na fydd yr undebau yn cau eu waledi. Yn ôl ar ddechrau'r haf cafodd adroddiad mewnol gan un o swyddogion undeb Unite ei ollwng i ddwylo'r wasg - adroddiad oedd ymhlith pethau eraill yn dweud hyn.

"Not only do we have relationships with the Welsh assembly and its members, and with the first minister which would serve as very satisfactory model for Westminster, but we achieve very significant results"

Pwy a ŵyr? Efallai y bydd yr undebau'n yn fwy hael yn 2016 nac yn 2015!