Riwl Britania!
- Cyhoeddwyd
- comments
Mae'n flwyddyn mwy neu lai cyn i'r Albanwyr benderfynu o blaid neu yn erbyn annibyniaeth. Nid fy lle i yw darogan i ba gyfeiriad y bydd pethau'n mynd. Dyw hi ddim yn argoeli'n dda i gefnogwyr annibyniaeth yn ôl arolygon barn ond gallasai llawer newid dros y deuddeg mis nesaf. Fe gawn weld.
Yr hyn sy'n ddiddorol ar hyn o bryd yw'r ymdeimlad cyffredin na fyddai hyd yn oed buddugoliaeth sylweddol i'r unoliaethwyr yn ddigon i arafu'r broses ddatganoli nac i ddarbwyllo'r cenedlaetholwyr i beidio gofyn y cwestiwn yr eildro. Yn wir mae nifer o bobl niwtral rwy'n eu parchu'n fawr yn amau mai mater o "pryd" nid "os" yw'r cwestiwn o annibyniaeth i'r Alban.
Mae hynny'n cymryd yn ganiataol y bydd senedd y Deyrnas Unedig yn parhau i ganiatáu i'r cwestiwn gael ei gofyn wrth gwrs.
Rwyf wedi nodi o'r blaen ein bod wedi cyrraedd sefyllfa yn yr ynysoedd hyn lle mae 'na gydsyniad bod gan bobloedd yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon hawl sofran ynghylch eu trefniadau cyfansoddiadol. Proses heddwch Gogledd Iwerddon sy'n bennaf gyfrifol am y sefyllfa ac mae'n un hynod o anarferol os nad yn unigryw ymhlith gwladwriaethau'r byd.
Mae hyd yn oed Canada wedi gosod pob math o rwystrau yn erbyn trydydd ymgais gan Quebec i dorri ei chwys ei hun. Peidiwch hyd yn oed gofyn ynghylch Sbaen a Ffrainc!
Yn y cyd-destun hwnnw mae'n ddiddorol edrych ar yr hyn mae ambell i Geidwadwr wedi bod yn dweud yn ddiweddar ynghylch cael setliad cyfansoddiadol newydd.
Bythefnos yn ôl ar fy rhaglen Saesneg fore Sul galwodd is-gadeirydd y blaid Michael Fabricant am "ddeddf uno newydd" fyddai'n cyfartalu grymoedd Caeredin, Caerdydd a Belfast ac yn eu gwneud nhw'n ddigyfnewid.
Yr wythnos hon mae'r Aelod Cynulliad David Melding wedi cyhoeddi llyfr yn galw am gyfansoddiad ffederal. Mantais hynny i'r seneddau datganoledig yw y byddai'n ei gwneud hi'n amhosib i San Steffan amrywio nac i ddileu eu hawliau. Yn hynny o beth fe fyddai hi mwy neu lai'n gyfystyr a chytundeb rhyngwladol.
Ochor arall y geiniog wrth gwrs yw y gallasai cynllun o'r fath gwneud hi'n llawer iawn anoddach i'r Alban, neu Gymru o ran hynny, adael. Gellid er enghraifft osod mwyafrif amodol ar gyfer unrhyw refferendwm neu fynnu bod annibyniaeth yn fater i'r deyrnas gyfan yn hytrach na gwlad unigol.
Dyw naill ai Michael Fabricant na David Melding wedi awgrymu hynny yn gyhoeddus nac, hyd y gwn i, yn breifat - ond dyna yw'r rhesymeg.
Dyw'r syniadau yma ddim mor newydd a hynny. Dydyn nhw ddim yn annhebyg i'r dadleuon a gyflwynwyd gan Murdo Frazer yn ei ymdrech i ennill arweinyddiaeth Ceidwadwyr yr Alban.
Doedd Torïaid yr Alban ddim yn fodlon dilyn y trywydd hwnnw a go brin fod eu cyd-bleidwyr yng Nghymru a Lloegr yn barod i wneud hynny chwaith. Serch hynny mae'r ffaith eu bod hyd yn oed yn cael eu trafod yn brawf o ba mor bell mae'r ddadl wedi dod ers "setlo'r mater" yn ôl yn 1997.