Y Felan Felen
- Cyhoeddwyd
- comments
O bryd i gilydd mae pleidiau'n dewis lleoliad i Gynhadledd a allai fod o gymorth yn etholiadol. Dyna i chi Blaid Cymru yn dewis Biwmares y llynedd neu Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gyson ymweld â Chanol Caerdydd.
Go brin y gellir honni mai dyna oedd cymhelliad y Democratiaid Rhyddfrydol wrth fentro i'r hen ogledd. Wedi'r cyfan yn 2011 derbyniodd y blaid 5,312 o bleidlesiau rhanbarthol yng Nglasgow gan ddod yn chweched dim ond trwch blewyn o flaen plaid y pensiynwyr.
Ac eithrio efallai y tro hwnnw y mentrodd Plaid Cymru i Gasnewydd mae'n anodd meddwl am gynhadledd yn cael ei chynnal ar dir llai ffrwythlon.
Cofiwch, mae rhannau helaeth o Brydain yn debyg o fod yn dir diffaith i'r Democratiaid Rhyddfrydol pan ddaw etholiad 2015. Heb os fe fydd colli nifer sylweddol o ernesau yn embaras i'r blaid ac efallai bod y posibilrwydd hwnnw'n ychwanegu at yr awyrgylch pruddglwyfus sy'n nodweddu digwyddiadau'r blaid y dyddiau hyn.
Dyw poeni am golli ernesau ddim yn beth newydd i blaid y canol. Roedd aelodau'r hen blaid Ryddfrydol arfer canu cân ynghylch y profiad. Ta beth, nid cadw ernesau na'r siâr o'r bleidlais Brydeinig sy'n bwysig y tro nesaf ond amddiffyn seddi ac yn draddodiadol mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bur dda ar hynny.
Mae rhesymeg yn awgrymu y bydd amddiffyn seddi rhag y Ceidwadwyr llawer yn haws na gwneud hynny yn erbyn Llafur neu, o ran hynny, y Cenedlaetholwyr a'r Gwyrddion.
Yn y dosbarth cyntaf o etholaethau does 'na ddim rheswm amlwg i rywun wnaeth bleidleisio i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010 ddewis y Ceidwadwyr tro nesaf. Y gamp i'r blaid fydd llwyddo i ddarbwyllo digon o gefnogwyr Llafur i barhau i bleidleisio'n dactegol er gwaethaf clymblaid 2010. Anodd ond nid amhosib.
Anodd a bron yn amhosib yn fy nhyb i yw tasg y blaid mewn sawl etholaeth lle mae Llafur yn ei herio. Ar hyn o bryd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynrychioli llond sach o seddi dinesig a enillwyd yng nghysgod rhyfel Iraq a goleuni'r addewid ynghylch ffioedd dysgu. Anodd yw credu na fydd llawer o'r caerau hynny yn syrthio.
Os ydy hynny'n digwydd - ac mae'n debyg o wneud, a fyddai'r Aelodau Seneddol oedd ar ôl yn fodlon peryglu eu heinioes wleidyddol trwy ffurfio clymblaid â Llafur? Ar ôl colli llwyth o seddi i'r cochion yn 2015 ac yna llwyth i'r gleision bum mlynedd yn ddiweddarach faint o blaid seneddol fyddai'n weddill?
Dyna i chi ddewis! Ochri gyda'r Ceidwadwyr ac ymddangos fel cŵn bach neu ochri gyda Llafur a pheryglu gwaith degawdau!
Tybed os 'na ambell i Ddemocrat Rhyddfrydol yn dawel gobeithio y bydd plaid, unrhyw blaid, yn ennill mwyafrif y tro nesaf?