Carwyn a'r Cangarŵ
- Cyhoeddwyd
- comments
Ar wahân i'n rhai ni, y system etholiadol rwy'n fwyaf cyfarwydd â hi yw un Awstralia. Rwyf wedi treulio tipyn o amser yn y wlad ar hyd y blynyddoedd ac mae gen i gyfeillion agos sy'n gweithio yn y byd newyddiadurol a gwleidyddol yno.
Mae trefn bleidleisio Awstralia yn un unigryw. Mae pleidleisio'n orfodol - er taw ychydig iawn o bobl sy'n cael eu cosbi am beidio gwneud. Gorfodol hefyd yw blaenoriaethu pob un ymgeisydd ar y papur pleidleisio - un i'ch dewis cyntaf, dau i'r ail ac yn y blaen nes cyrraedd y diwedd.
Yn etholiadau'r siambr isaf, Tŷ'r Cynrychiolwyr, mae'r system yn gweithio'n ddigon handi er bod angen aros rhai wythnosau am y canlyniadau terfynol mewn ambell i etholaeth. Yn etholiadau'r siambr uchaf, y Senedd, ar y llaw arall mae'r cyfan wedi troi'n smonach lwyr.
Yn achos y Senedd, mae gan bob etholwyr ddewis. Gellir pleidleisio "islaw'r llinell" gan rifo pob un ymgeisydd - a gall fod rhai cannoedd o rheiny gan fod hanner dwsin yn cael eu hethol ar y tro. Y dewis arall yw pleidleisio i un blaid "uwchlaw'r llinell" gan adael i'ch dewisiadau lifo yn unol â'r cynllun a gofnodwyd o flaen llaw gan y blaid honno.
Oes angen dweud bod dros 95% o'r etholwyr yn cymryd yr ail ddewis?
Fe weithiodd y gyfundrefn yn iawn am dros ganrif cyn i rywun sylweddoli y gallasai'r gyfundrefn gynnig drws cefn i'r Senedd. Os oedd digon o bleidiau bach yn sefyll, rhai ohonyn nhw gydag enwau camarweiniol braidd, a phe bai'r pleidiau hynny i gyd yn cytuno i rannu eu dewisiadau a'i gilydd roedd 'na siawns go dda y gallasai un neu fwy ohonyn nhw ennill sedd.
A dyna sy'n debyg o ddigwydd eleni. Fe fydd y cyfri yn para am ryw fis arall ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos yn bosib bod cynrychiolwyr y "Liberal Democrats" (peidiwch ofyn!), y "Motoring Enthusiasts Party" a'r "Australian Sports Party" wedi ennill seddi. Yn achos yr olaf o'r rheiny gallai 2,616 o bleidleisiau allan o 1,182,632 fod yn ddigon i ennill sedd ar ôl cymryd dewisiadau i ystyriaeth!
Mae'n debyg y bydd 'na ymdrech i newid y drefn cyn etholiad nesaf y Senedd ond fel ym mhopeth arall cyfansoddiadol - haws dweud na gwneud. Yn y cyfamser fe fydd Llywodraeth Tony Abbott yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth rhai o'r meicro-bleidiau er mwyn pasio deddfwriaeth.
Y gwir amdani yw bod 'na dyllau ym mhob un system etholiadol. Mae'n debyg eich bod yn cofio i'r "Literal Democrats" gosti sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiadau Ewrop rhyw dro.
Yn etholiadau'r Cynulliad does 'na ddim byd i rwystro plaid rhag enwebu ymgeiswyr ar gyfer yr etholaethau tra'n cymell ei chefnogwyr i fwrw pleidlais dros ymgeisydd annibynnol neu blaid a sefydlwyd yn unswydd i'r pwrpas yn y bleidlais ranbarthol. Gallasai Llafur yn hawdd sicrhau mwyafrif yn y Cynulliad trwy wneud hynny - ond gan danseilio holl hygrededd y gyfundrefn yn y broses.
Ewyllys da a synnwyr cyffredin y pleidiau sy'n rhwystro pethau felna rhag digwydd.
Mae 'na un eithriad i'r ewyllys da a'r synnwyr cyffredin hynny. Y ffwdan ynghylch gwahardd ymgeiswyr rhag sefyll mewn etholaeth ac ar y rhestr ranbarthol yw hwnnw. Cyflwynwyd y gwaharddiad yn 2006 fel rhan i Deddf Llywodraeth Cymru. Mae clymblaid San Steffan yn bwriadu deddfu i'w dileu yn ystod y misoedd nesaf ond beth fyddai'n digwydd pe bai Llafur yn ennill grym yn San Steffan yn 2015?
Dyma oedd gan Owen Smith, Llefarydd yr Wrthblaid ar Gymru i ddweud ynghylch y pwnc ym Mis Mehefin.
"The Secretary of State should explain what he means by that statement. I think he would struggle to explain how a system that disallows the shady practice of allowing people to stand on the list and first past the post benefits Labour, unless he believes that the standard operating procedure of Tories, Liberals and Plaid Cymru in Wales will be to stand both on the list and first past the post, to double up in that fashion... The people of Wales do not support it, and the Labour party should not support it. That is why I commit here today to reversing it as soon as we possibly can in the event of the Labour party winning in 2015."
Mae Carwyn Jones ar y llaw arall yn mynnu taw mater i'r Cynulliad ddylai'r system bleidleisio fod gyda mwyafrif amodol yn rhwystro unrhyw un blaid rhag ei newid ar ei liwt ei hun.
Pwy sydd a'r mwyaf o ddylanwad ar gynnwys maniffesto Ed Miliband, tybed? Owen Smith neu Carwyn Jones? Rwy'n amau nad hwn fydd y tro olaf i mi ofyn y cwestiwn yna!