O Deuwch Ffyddloniaid

Hwre - mae'r Aelodau'r Cynulliad yn ôl - dyna i chi frawddeg nad oeddwn i byth wedi disgwyl ei hysgrifennu ond mae hi wedi bod yn haf hir ar y naw eleni.

Am wn i, y gwaith oedd yn cael ei wneud ar Dŷ Hywel oedd yn gyfrifol am y ffaith bod hi'n ddeufis union ers i'r Cynulliad gwrdd ddiwethaf. Hir yw pob ymaros ond roedd yr un yma'n arteithiol i anorac!

Bant a ni felly gyda rownd gyntaf cynadleddau newyddion tymor yr hydref gyda sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog i ddilyn.

Plaid Cymru oedd y blaid gyntaf i hawlio ei thro yn ystafell briffio'r cyfryngau - ystafell digon digalon ym mherfeddion y Senedd. Roedd 'na griw go dda o newyddiadurwyr yna hefyd - AC newydd Ynys Môn oedd y seren i fod a hwnnw'n edrych yn eithaf ansicr wrth wynebu ei gyn-gydweithwyr.

Nid bod gan Rhun ap Iorwerth le i bryderi. Roedd y cwestiynau i gyd yn rhai yr oedd e'n gyfarwydd â nhw o'r ymgyrch etholiadol. Silk, Wylfa, Wylfa, yr economi a Wylfa eto.

Penderfynais ofyn cwestiwn "left field" - un wedi ei ysbrydoli gan bost draw ar Flog Menai - a fyddai Plaid Cymru'n fodlon ystyried clymbleidio ac Ukip rhywbryd yn y dyfodol? Roedd hynny'n annhebyg yn ol Leanne Wood gan chwerthin cyn mynd cam ymhellach a datgan na fyddai hynny'n digwydd. Gwatwarus oedd y cwestiwn ond gallasai'r ateb fod yn bwysig os ydy'r polau yn aros fel maen nhw.

Os oedd gan Leanne AC newydd sbon i ddenu'r newyddiadurwyr tybed a fyddai'r Torïaid yn ceisio ei thrwmpio? Wel fe wnaeth Andrew R.T Davies ei orau (gorau glas, wrth reswm) i wneud hynny. Cyflwynodd teclyn bach sy'n cyfri faint o arian y mae'r Torïaid yn honni i Lafur dorri o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd.

Disgrifiad Andrew o'r teclyn oedd y "clockometer" - gair cwbwl newydd i mi. O edrych, dyw'r gair ddim yn ymddangos yng ngeiriadur Rhydychen chwaith.

Am ryw reswm neu'i gilydd mae gan Andrew ei fersiwn bersonol o'r iaith Saesneg. Efallai mai ef yw siaradwr olaf rhyw dafodiaith hanesyddol yn perthyn i Fro Morgannwg neu efallai bod ei feddwl yn gweithio mewn ffordd ychydig bach yn wahanol i bawb arall. Ta beth, mae "clockometer" yn air digon pert a digon amlwg ei ystyr.

Doedd hyd yn oed y cathod seicadelig yn dawnsio ar dei Peter Black ddim yn gallu cymharu â gwreiddioldeb geirio Andrew ac wyneb ffres Plaid Cymru ond yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog nid am y tro cyntaf arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wnaeth lwyddo i fynd o dan groen Carwyn Jones.

Iechyd oedd y prif bwnc dan sylw yn y sesiwn gwestiynau gyda'r gwrthbleidiau'n colbio record Carwyn ac yntau'n colbio llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Deufis i ffwrdd a dyw rhai pethau ddim yn newid!