Craidd y mater

Mae'n ystrydeb bron i ddweud bod etholiadau cyffredinol ym Mhrydain yn cael eu hennill ar y tir canol. Mae angen tanio brwdfrydedd eich cefnogwyr a sicrhau eu bod yn pleidleisio wrth reswm ond hudo'r rheiny sydd yn y canol yw prif nod pob ymgyrch.

Gwarir miliynau ar geisio argyhoeddi'r "Worcester women" neu'r "Mondeo men" sy'n mynd i benderfynu'r etholiad. Dyna yw'r myth o leiaf.

Ond mae 'na fathau eraill o etholiad - y rheiny y mae'r Americanwyr yn galw yn "base elections" lle nad yw'r pleidiau yn ceisio newid meddyliau o gwbl. Yn hytrach mae'r cyfan o'r ymgyrchu wedi ei ganolbwyntio ar droi allan eich cefnogwyr eich hun.

Anodd yw llwyddo gyda thactegau felly mewn gwledydd lle mae canran uchel yn pleidleisio a lle mae 'na gyfundrefn bleidiol gadarn. Roedd 'na gyfundrefn felly ym Mhrydain am ddegawdau ond mae hi wedi bod yn gwegian ers peth amser.

O wrando ar araith Ed Miliband ddoe roedd hi'n anodd peidio dod i'r casgliad bod strategwyr Llafur yn credu y gellir ennill yr etholiad nesaf heb newid llawer o feddyliau.

Gadewch i ni edrych ar y fathemateg. Yn 2010 enillodd Llafur 29.6% o'r bleidlais. Roedd hynny'n ddigon i sicrhau 258 o seddi a senedd grog. Yn etholiad "trychinebus" 1983 sicrhaodd Llafur 27.6% o'r bleidlais ond dim ond 209 o seddi.

Mae 'na sawl ffactor yn gyfrifol am y ffaith bod y bensaernïaeth etholiadol wedi ei thrawsnewid er lles Llafur ers 1983. Nid y rhesymau sy'n bwysig ond y ffaith. Fe fyddai ennill rhywle rhwng 34% a 35% o'r bleidlais yn ddigon i Lafur fod yn blaid fwyaf yn San Steffan hyd yn oed os oedd ei phleidlais yn llai na chyfanswm y Ceidwadwyr. Byddai curo'r Ceidwadwyr yn y bleidlais boblogaidd yn ddigon i sicrhau mwyafrif dros bawb.

Nawr, fe fyddai'n anghywir i ddweud bod aelodau Llafur yn dawel hyderus ynghylch 2015. Dydyn nhw ddim. Ond pan ddawr pryderon i'w poeni mae 'na fantra i'w cysuro. Dyma hi. "Fe fydd pawb wnaeth bleidleisio dros Gordon Brown yn pleidlesio dros Ed Miliband. Mae cefnogwyr asgell chwith y Democratiaid Rhyddfrydol yn dod atom ac mae Ukip yn saff o wneud fwy o niwed i Cameron na'r tro diwethaf. Mae modd ennill etholiad heb ennill calonnau."

Anodd yw anghytuno a'r rhesymeg.

Nawr meddyliwch am rai o'r polisïau mae Llafur wedi cyhoeddi'n ddiweddar. Nid trafod rhinweddau neu ffaeleddau'r polisïau ydw i yn fan hyn ond gofyn at bwy y maen nhw wedi ei hanelu - i bwy maen nhw'n debyg o apelio?

Cymerwch yr addewid i ddileu'r "dreth ystafell wely". Mae'n amlwg y bydd hwnnw'n apelio'n fwyaf at y rheiny sy'n "talu'r dreth" neu yn hytrach wedi gweld cwtogiad yn eu budd-dal dai. Teg yw credu y byddai'r mwyafrif o'r rheiny yn bobl a fyddai'n pleidleisio i Lafur os oeddent yn pleidleisio o gwbl. Cael nhw mas yw'r tric - ac mae'r addewid yn ffordd o wneud hynny.

Gellir dweud rhywbeth tebyg ynghylch yr addewid i godi'r isafswm cyflog ac i rewi prisiau ynni. Wrth reswm gallai'r rheiny apelio at bobol y tu hwnt i'r etholaeth graidd ond at y craidd maen nhw wedi eu hanelu.

Beth fydd David Cameron yn gwneud i ymateb i'r dacteg hon?

Wel, rydym wedi gweld peth o'r ymateb yn barod. Mae polisïau fel toriadau mewn budd-daliadau ac addo refferendwm ar Ewrop wedi eu cynllunio i anelu at ei bleidlais graidd ei hun.

Ond mae 'na broblem. Er mwyn sicrhau mwyafrif mae angen i David Cameron estyn allan i grwpiau newydd o bleidleiswyr yn ogystal a'r craidd. Ymdrech i wneud hynny oedd cyfreithloni priodasau hoyw ond fe wnaeth y mesur hwnnw elyniaethu nifer ar y dde.

Rydym mewn sefyllfa felly lle gall yr arweinydd Llafur ganolbwyntio ar ei bleidlais graidd gan ddisgwyl i'w wrthwynebydd faglu. Mae Cameron ar y llaw arall yn gorfod troedio'r wifren uchel ac osgoi cwympo.

Onid dyna oedd yr union sefyllfa pan drechodd Ed ei frawd?