Yma Mae Beddrodau'n Tadau

Profiad rhyfedd yw gwylio'r cynadleddau Prydeinig o bell. Bues i'n mynychu nhw am ryw ugain mlynedd ac ar y cyfan roeddwn i'n mwynhau'r gwaith yn ystod y dydd a'r cymdeithasu fin nos.

Serch hynny dydw i ddim yn teimlo fy mod wedi colli rhyw lawer eleni trwy beidio bod yng Nglasgow, Brighton a Manceinion. Rhan o'r rheswm am hynny yw bod llawer o'r ddrama wedi diflannu. Ci bach yr arweinyddiaeth oedd y Gynhadledd Geidwadol o'r dechrau ac erbyn hyn mae'r un peth yn wir am y gynhadledd Lafur.

Mae 'na fwy o bwynt i gynadleddau'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ond dim cymaint â hynny. Wedi'r cyfan gellir anghofio unrhyw benderfyniadau polisi "anghyfleus" yn ystod ymgyrchoedd etholiad a thrafodaethau clymblaid. Dim ynni niwcliar? Mae 'na is-etholiad i'w ymladd!

Yn ychwanegu at amherthnasedd y cynadleddau Prydeinig y dyddiau hyn mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o gyhoeddiadau polisi yn ymwneud a Lloegr yn unig.

I ni yng Nghymru felly mae'r cynadleddau hyd yn oed yn llai diddorol nac oedden nhw yn y dyddiau cyn datganoli.

Yn wyneb hyn oll dyw e hi ddim yn syndod efallai bod llygaid newyddiadurwyr wedi troi at bobol oedd yn llechu ar gyrion y cynadleddau - Damian McBride yn achos Llafur a Nigel Farage yn achos y Torïaid.

Mae'n debyg y byddai sbin-feistri'r Ceidwadwyr wedi rhagweld ymyrraeth arweinydd Ukip ond mae'n annhebyg bod yr un ohonyn nhw wedi proffwydo y byddai Ed Miliband yn llwyddo i ddenu sylw i ffwrdd o negeseuon David Cameron.

Mae'n rhy gynnar i ni weld pa effaith y caiff ymosodiad y Daily Mail ar Ralph Miliband ar boblogrwydd ei fab yn y polau piniwn. Ond o edrych ar y sylwadau ar wefan y Mail - y gwefan papur newydd mwyaf poblogaidd yn y byd - mae'n ymddangos bod ei darllenwyr yn ochri gyda'r arweinydd Llafur yn hytrach na'r papur.

Does dim rhaid bod yn athrylith i synhwyro pam. O ddarllen y sylwadau mae'n ymddangos bod y rhai a'u hysgrifennodd yn meddwl bod y Daily Mail wedi ymddwyn mewn ffordd snichlyd a dan din. Ar y llaw arall mae mab sy'n amddiffyn ei dad, beth bynnag oedd ffaeleddau hwnnw, yn berson i'w edmygu.

Mewn ffordd does dim llawer o ots pwy sy'n ennill cydymdeimlad y cyhoedd yn y ffrae yma. Sugnwyd yr ocsigen allan o neuadd y gynhadledd ac mae'r Prif Weinidog yn gorfod cystadlu am sylw gyda dyn a gladdwyd bron i ugain mlynedd yn ôl.

Go brin bod y Ceidwadwyr yn teimlo'n ddiolchgar i'r Daily Mail am ei ymosodiad ar Miliband ond cofiwch dyw'r Mail ddim yn or-hoff o David Cameron chwaith!