Y Gêm Gyllidebol
- Cyhoeddwyd
- comments
Rhywle ym mherfeddion Tŷ Hywel neu efallai swyddfeydd y llywodraeth ym Mharc Cathays mae cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf - cyfarfodydd nad ydym ni'r newyddiadurwyr yn gwybod dim am eu lleoliad na'u cynnwys.
Nawr ar y cyfan mae pobl y Bae yn bobl siaradus. Does 'na ddim llawer dydyn ni ddim yn cael achlust yn ei gylch ond pan ddaw hi i'r cyfarfodydd i drafod y gyllideb mae 'na omerta gadarn y byddai Don Corleone yn falch ohoni.
Chi'n gyfarwydd â'r cefndir. Union hanner y seddi yn y Cynulliad sydd gan Lafur. Oherwydd hynny, er mwyn cymeradwyo'r gyllideb mae angen cymorth. Llynedd o Blaid Cymru y daeth y cymorth hwnnw. Y Democratiaid Rhyddfrydol oedd yn rhoi help llaw'r flwyddyn gynt.
Eleni fe gytunodd Leanne Wood a Kirsty Williams y dylai'r ddwy blaid gydweithio a'i gilydd i sicrhau'r fargen orau bosib gan Lafur. Gyda Carwyn Jones yn gwrthod trafod a'r Ceidwadwyr fe fyddai modd i'r ddwy blaid sicrhau consesiynau llawer mwy sylweddol.
Dyna oedd y theori ac i fod yn deg mae'n debyg y bydd cryn dipyn o dir yn cael ei ildio gan Lafur yn ystod y trafodaethau. Serch hynny mae 'na fantais enfawr i Lafur mewn trafod gyda'r ddwy blaid gyda'i gilydd.
Mae'n gwbwl eglur erbyn hyn bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cwtogi'n sylweddol ar y cymorth a roddir i'r cynghorau yng nghyllideb eleni. Fe ddywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol hynny'n blaen rhai misoedd yn ôl ac ers hynny, os unrhyw beth, mae'r sefyllfa ariannol sy'n wynebu'r Llywodraeth wedi gwaethygu.
Pa bynnag pethau da sy'n cael eu cynnwys yn y gyllideb fe fydd rhai o'r penderfyniadau'n hynod amhoblogaidd yn enwedig wrth i bobol gweld effaith uniongyrchol ar eu gwasanaethau ar lawr gwlad.
Fe fydd hi'n haws darbwyllo'r cyhoedd nad oedd gan y llywodraeth ddewis os oes 'na dair plaid yn cydsynio a'r penderfyniadau. Gyda'r Ceidwadwyr yn rhoi pwyslais ar ddiogelu'r gwariant ar iechyd fe fyddai'n anodd iawn i'r blaid honno gwyno chwaith. Mae Carwyn Jones mewn sefyllfa felly i sicrhau bod y gwrthbleidiau yn derbyn elfen o berchnogaeth ynghylch y gyllideb.
Os daw sefyllfa felly fe fydd yn anodd penderfynu pwy sydd wedi ennill y gêm gyllidebol - y pleidiau wnaeth ennill consesiynau neu'r un wnaeth sicrhau cefnogaeth eang i benderfyniadau anodd.
Ond efallai bod "gêm gyllidebol" yn ddisgrifiad annheg o'r hyn sy'n digwydd. Efallai y byddai "gwleidyddiaeth aeddfed" yn well.