Lwc ac Anlwc
- Cyhoeddwyd
- comments
Rwy'n ddiolchgar i Ira Walters am dynnu fy sylw at stori fach ddifyr o'r gorffennol. Yn ôl yn 1983 fe safodd Ira dros y Blaid Lafur yn etholaeth Conwy gan golli i Wyn Roberts oedd yn weinidog yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd. Yn wir, mae Wyn yn enwog fel yr unig weinidog i wasanaethu yn yr un adran trwy gydol teyrnasiad Margaret Thatcher fel Prif Weinidog.
Wrth bori ar wefan rhagorol Sefydliad Thatcher fe ddaeth Ira ar draws dogfen hynod o ddifyr, dolen allanol. Rhestr yw hi o'r newidiadau yr oedd y Prif Weinidog yn bwriadu eu cyflwyno ar y meinciau blaen. Roedd na ddyrchafiadau i fod i Thatcherwyr pybyr fel Syr Keith Joseph a Norman Tebbit a danfonwyd criw o'r gwlypion i'r meinciau cefn gydag ambell i deitl i'w cysuro.
Ond beth yw hyn reit ar waelod y ddogfen? Gellir gweld bod rhywun, Thatcher ei hun mwy na thebyg, wedi croesi dwy linell allan. O graffu'n ofalus gellir gweld darllen y geiriau sydd wedi eu dileu. Dyma nhw.
Wyn Roberts - resigns as Parl'y Sec, Welsh Office.
Keith Best succeeds Wyn Roberts as Parl'y Sec Welsh Office.
"Resigns" yw'r gair a ddefnyddir. Fe fyddai'r sac yn fwy cywir.
Does dim modd gwybod pam y newidiodd Margaret Thatcher ei meddwl ond mae'r ddogfen yn atgoffa bod gan lwc a mympwy ei lle mewn gwleidyddiaeth.
Mae hynny'n dod a ni at Leighton Andrews.
Anlwc oedd hi fod rhywun wedi sylwi ar lun o'r Gweinidog Addysg yn sefyll gyda phrotestwyr yn erbyn cau ysgol yn ei etholaeth - ysgol oedd dan fygythiad oherwydd polisi y Gweinidog Addysg ei hun. Anlwc hefyd oedd bod y person hwnnw wedi penderfynu am ba bynnag rheswm i rannu'r llun a newyddiadurwyr y BBC.
Cyn i chi ofyn dydw i ddim yn gwybod pwy wnaeth ond mae i'r strôc fach yna o anlwc oblygiadau pwysig.
Ar ei flog, dolen allanol mae Leighton yn mynnu nad oes unrhyw wahaniaeth rhwng ei flaenoriaethau a'i bolisiau fe a rhai ei olynydd, Huw Lewis.
Mae'n sicr bod hynny'n wir mewn sawl maes ond oes 'na unrhyw un yn credu y bydd Huw yn ymateb yn yr un ffordd ac y byddai Leighton i'r argymhelliad i roi Cymru wrth graidd y cwricwlwm hanes yn ei hysgolion? Annhebyg. A fydd Carwyn Jones yn ei rôl fel Gweinidog Iaith yr un mor frwd dros newidiadau i'r Eisteddfod Genedlaethol a Leighton? Go brin.
Cwestiwn arall. A fyddai Deddf Iaith 1993 wedi cyrraedd y llyfr statud pe bai Margaret Thatcher wedi sacio Wyn Roberts?
Lwc ac anlwc, mympwy a chyd-ddigwyddiad. Mae gwleidyddiaeth yn gêm ryfedd weithiau.