A Oes Heddwch?

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dydw i ddim yn sicr pa bennawd yn y Gymraeg fyddai'n cyfateb i "Small Earthquake in Chile, Not many dead" - y pennawd sy'n cael ei hystyried fel yr un mwyaf anniddorol erioed yn hanes newyddiaduraeth. Efallai y byddai "Tasglu Eisteddfod yn Cyhoeddi Fawr o Ddim" yn gwneud y tro.

Mae'n werth cofio bod sefydlu tasglu Roy Noble wedi rhoi llond bola o ofn i nifer o selogion yr Eisteddfod. Leighton Andrews oedd wedi ei sefydlu ac fel y nodais i'r wythnos ddiwethaf roedd hi'n amlwg ei fod yn frwd dros newidiadau sylfaenol i'w ŵyl gan gynnwys ystyried y posibilrwydd o un neu fwy o safleoedd parhaol.

Efallai pe bai Leighton wedi parhau yn y swydd y byddai'r argymhellion yn fwy radicalaidd. Mae gan weinidogion ffyrdd o gael effaith ar gasgliadau tasgluoedd hyd yn oed os ydy'r rheiny yn 'annibynnol'.

Gydag ymddiswyddiad Leighton a Carwyn Jones yn cymryd cyfrifoldeb am y Gymraeg fe ddiflannodd y pwysau. Yr hyn a gafwyd gan y tasglu heddiw felly oedd adroddiad yn gwneud ambell i awgrym digon adeiladol ond sydd yn y bôn yn dweud y dylai'r brifwyl barhau yn ei ffurf bresennol.

Dyw hynny ddim yn golygu bod y broses yn ddiwerth. Weithiau mae gwerth mewn edrych ar syniadau er mwyn ei gwrthod.

Yn bersonol rwy'n edrych ymlaen at fynd i Barc Cathays, y Fenni neu le bynnag y mae'r Eisteddfod yn dewis myn a ni. Ond mae'n werth nodi bod Eisteddfodau 2013, 2014 a 2015 i gyd wedi neu yn mynd i gael eu cynnal ar safleoedd a ddefnyddiwyd gan yr Eisteddfod yn gymharol ddiweddar.

Mae maint y Brifwyl ynghyd a hawl dwyfol y carafanwyr i gampio reit wrth ymyl y maes yn golygu bod y nifer o safleoedd posib yn gyfyngedig. Anodd iawn yw dod o hyd i safleoedd addas yng nghymoedd y de, er enghraifft.

Dyna pam mae gwyliau fel Eisteddfod y Cymoedd a Ffiliffest yn bwysig. Oni ddylid edrych ar beth ellir ei wneud i ddatblygu'r rheiny nesaf?