Islwyn, Martha a'r Bleidlais Amgen
- Cyhoeddwyd
- comments
Am wn i, y geiriau olaf mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg yw'r rheiny ddywedodd y bardd Islwyn wrth ei wraig Martha - "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. Rwyf yn mynd at Anne nawr."
Oes angen dweud taw cyn-gariad wnaeth farw'n ifanc oedd Anne?
Pe bawn i yn lle Martha druan byswn i wedi prysuro ymadawiad y gwalch! Roedd e wedi treulio'r cyfan o'u priodas bron yn canmol Anne i'r cymylau ac yn hiraethu amdani. Os bu dyn yn erioed yn haeddu swatad a ffrimpan Islwyn oedd hwnnw!
"Diolch i ti, David, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. Rwyf yn mynd at Ed nawr." Rwyf bron yn gallu clywed Nick Clegg yn dweud y geiriau ac yn gallu dychmygu David Cameron yn estyn am y ffrimpan!
Fedrai ddim dweud wrthych chi cymaint y mae pobol Llafur a'r Ceidwadwyr yn dirmygu plaid y canol a chymaint maen nhw'n casau'r syniad y gallai eu ffawd fod yn nwylo'r drydedd blaid am flynyddoedd i ddod.
Dyna oedd un o'r rhesymau am agwedd llugoer actifyddion Llafur tuag at y bleidlais amgen a'r prif reswm am benderfyniad y Torïaid i geisio trechu'r syniad yn refferendwm 2011.
Nawr rwyf wedi nodi o'r blaen bod y Ceidwadwyr wedi rhwydo'r bel yn eu gôl eu hun trwy drechu'r bleidlais amgen.
Canlyniad hynny oedd penderfyniad y Democratiaid Rhyddfrydol i flocio newid yn y ffiniau etholaethol fyddai wedi ffafrio'r Ceidwadwyr. Ond mae'n bosib bod David Cameron wedi tanseilio'i gyfle o barhau yn Downing Street mewn ffordd arall hefyd.
Gadewch i ni geisio dyfalu beth fyddai canlyniad yr etholiad nesaf pe bai pobl wedi pleidileisio o blaid y bleidlais amgen yn 2011.
Wel, yn gyntaf mae'n debyg y byddai'r Ceidwadwyr yn ennill rhyw ddeg ar hugain o seddi ychwanegol oherwydd y ffiniau newydd. Ond meddyliwch hefyd beth fyddai'n debyg o ddigwydd i bleidleisiau'r rheiny wnaeth gefnogi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn etholiad 2010 - 23% o'r pleidleisiau a fwriwyd.
Yn ôl yr arolygon barn mae oddeutu hanner y pleidleiswyr hynny wedi symud at Lafur gyda'r hanner arall yn aros yn driw i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae synnwyr cyffredin yn awgrymu felly y byddai 'na lif o ddewisiadau amgen o Lafur i'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn seddi lle'r oedd y ras yn un rhwng y ceffylau melyn a glas ac o'r Democratiaid Rhyddfrydol i'r Ceidwadwyr mewn gornestau rhwng y cochion a'r gleision.
Byddai, fe fyddai hynny'n golygu y gallai'r Ceidwadwyr golli ambell i sedd i blaid y canol ond fe fyddent hefyd yn trechu Llafur mewn sawl etholaeth arall.
Canlyniad y bleidlais amgen felly fyddai senedd oedd a rhagor o Geidwadwyr a rhagor o Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Fe fyddai ail glymblaid glas a melyn neu hyd yn oed mwyafrif Ceidwadol yn fwy tebygol felly gyda'r bleidlais amgen na gyda'r drefn "cyntaf i'r felin".
Un feirniadaeth a glywir yn aml ynghylch David Cameron yw ei fod yn fwy o ddyn tactegau na strategaeth. Ydy ei agwedd tuag at y bleidlais amgen yn profi hynny? Fe gawn weld.