Salad Geiriau Plaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Mae pobl yn gallu poeni gormod ynghylch enwau boed y rheiny'n enwau ar blant neu'n enwau ar bleidiau.

Mewn gwleidyddiaeth fel yn y rhan fwyaf o bethau mae'r "brand" yn bwysig. Gall ychwanegu'r gair "new" at ddechrau enw gweithio gwyrthiau weithiau boed hwnnw'n enw ar blaid neu ar bowdwr golchi!

Ar y llaw arall mae newid enw yn gallu bod yn gyfystyr a rhoi lipstic ar fochyn os nad oes 'na newid i'r sylwedd hefyd.

Go brin y byddai'r Ceidwadwyr wedi gwneud yn well yn y 1940au pe bai Harold Macmillan wedi cael ei ffordd ac wedi newid eu henw i'r "New Democratic Party".

Go brin hefyd y byddai dewis yn enw "Democrats" yn hytrach na "Liberal Democrats" wedi unrhyw wahaniaeth i ffawd plaid y canol ond diawch, fe achosodd y ddadl honno gythraul o ffrae yn ôl yn 1988!

O leiaf cafwyd datrysiad pendant yn y ddau achos uchod. Mae unrhyw fath o benderfyniad ac o gysondeb yn well na'r salad geiriau ynghylch enw "Plaid Cymru", "Plaid Cymru - The Party of Wales" a "The Party of Wales"

Nawr, dydw i ddim cweit yn deall pam y mae rhai o fewn Plaid Cymru yn teimlo'r angen am enw Saesneg. Dyw diffyg enw o'r fath ddim wedi bod yn broblem i Fianna Fáil a Fine Gael hyd y gwelaf i.

Hwyrach bod strategwyr y blaid yn credu bod 'na rhyw bleidleiswyr yn rhywle nad ydynt yn fodlon pleidleisio i Welshies eithafol "Plaid Cymru" ond y byddai'n ystyried y "Party of Wales" fel y peth mwyaf cwl a welodd dyn erioed.

Iawn. Ffein. Os felly, boed felly ond byddwch yn gyson ynghylch y peth er mwyn tad.

Dyma i chi "pick and mix" o ddatganiadau newyddion Saesneg diweddar y blaid.

"Plaid Cymru AM addresses Cardiff rally"

"The Party of Wales Shadow Education Minister Simon Thomas has used Assembly procedures..."

"Welsh economic recovery must be secured, says Plaid Cymru"

"The Party of Wales Shadow Transport Minister Dafydd Elis-Thomas said...."

Ac yn y blaen ac yn y blaen.

Nawr, fel newyddiadurwr rwy'n fodlon defnyddio pa bynnag enw y mae plaid yn dewis i'w hun ond fe fyddai'n ddefnyddiol gwybod beth yw'r enw hwnnw!