Ai am fod haul yn machlud?

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Chwi gofiwch, mae'n debyg, bod y pleidiau yn y Cynulliad yn bur unfrydol eu croeso i ymateb Llywodraeth y Deyrnas Unedig i argymhellion Conisiwn Silk. Roedd 'na groeso cyffredinol i'r penderfyniad i roi pwerau benthyg i Lywodraeth Cymru a'r bwriad i ddatganoli nifer o drethi bychan i Gymru.

Yr unig agwedd lle'r oedd 'na wahaniaeth barn rhwng y pleidiau oedd ynghylch cynnal refferendwm a fyddai'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb am gyfran o'r dreth incwm i Gymru.

Croesawodd Carwyn Jones y "fecanwaith" cyn ychwanegu na fyddai'n cefnogi cynnal refferendwm cyn i fformiwla Barnett gael ei diwygio. Mae'r safbwynt Llafur yn ddigon eglur. Dyma oedd gan Leighton Andrew i ddweud yn y siambr ddydd Mawrth.

"I would have to say that, as someone who has been actively involved in campaigning for 'yes' votes in previous referendums, I would not campaign for a 'yes' vote in current circumstances in respect of income tax, and I do not believe that my constituents would vote for those income tax powers in current circumstances."

Ar wefan Labour List, dolen allanol mae'r llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith hyd yn oed yn fwy di-flewyn ar dafod.

"... we will not be goaded by the Tories or nationalists, whose agenda is to exploit Tory trickery to further their separatist cause, into taking powers for powers sake, especially not if we fear their adoption could be used by a Tory government with little interest in the working people of Wales to cut our budgets and disinvest in our success."

Heb os fe fydd Llafur yn pwyso am gymal yn Mesur Cymru yn datgan bod angen mwyafrif o ddwy ran o dair yn y Cynulliad i alw refferendwm. Mae 'na gynsail i hynny. Roedd angen mwyafrif amodol i alw refferendwm 2011 ac fe fyddai'n anodd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig beidio ildio'r pwynt - er y byddai hynny i bob pwrpas yn gosod pŵer feto yn nwylo'r blaid Lafur.

Serch hynny fe fyddai modd i San Steffan gynyddu'r pwysau ar Lafur ac achosi trafferthion go iawn iddi. Cymal machlud fyddai hwnnw - cymal yn datgan bod yn rhaid cynnal y refferendwm cyn dyddiad arbennig neu golli'r hawl i wneud hynny.

Ydy Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried gwneud hynny? Mewn un gair? Ydyn. Dyna'r awgrym gan un a ddylai wybod a dyma ddyddiad i chi - 2017.