Carwyn ar grwydr

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Yfory fe fydd Carwyn Jones yn mentro i'r Alban i ddadlau'r achos dros barhad y Deyrnas Unedig. Nawr does neb yn disgwyl i ymweliad Prif Weinidog Cymru newid termau'r ddadl yn yr hen ogledd. Daeth dylanwad y Cymry yn y rhan yna o'r byd i ben o leiaf mil o flynyddoedd yn ôl os ydych chi'n credu Brut y Tywysogion!

Nid bod yr ymweliad yn ddiystyr. Roedd penderfyniad Prif Weinidog Cymru i beidio ag ymgyrchu dros bleidlais "na" yn yr Alban cyn derbyn sicrwydd y byddai argymhellion Comisiwn Silk yn cael eu gwireddu yn rhan fach ddiddorol o'r gêm gwyddbwyll gyfansoddiadol.

Mewn un ystyr mae'r ffaith bod Carwyn mynd i'r Alban o gwbl yn fwy diddorol na'r hyn fydd ganddo i ddweud. Gallwn fod yn weddol sicr y bydd e'n defnyddio'r cytundeb diweddar ynghylch pwerau trethi fel prawf bod modd symud y broses ddatganoli ymlaen pa liw bynnag yw Llywodraeth San Steffan

Mae'n debyg y bydd hefyd yn achub ar y cyfle i alw unwaith yn rhagor am Gonfensiwn Cyfansoddiadol i drafod dyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.

Nawr mae'r Albanwyr wedi hen arfer a chonfensiynau o'r fath. Confensiwn Cyfansoddiadol wedi cyfan wnaeth lunio'r cynllun datganoli wnaeth arwain at sefydlu senedd Holyrood.

Serch hynny dydw i ddim yn gweld y syniad yn apelio rhiw lawer i'r Albanwyr. Yr hyn sy'n drawiadol wrth ddarllen erthyglau a blogiau gwleidyddol Albanaidd ar hyn o bryd yw pa mor gwbl amherthnasol yw Cymru a Gogledd Iwerddon i'r ddadl. Mater rhwng yr Alban a Lloegr neu'r Alban a'r DU yw hwn nid sgwrs rhwng y pedair gwlad sy'n ffurfio'r deyrnas.

Dydw i ddim yn gwybod os oes 'na derm term Cymraeg am "Freudian slip". Slip Ffreudian, efallai! Beth bynnag yw'r term cafwyd enghraifft wych o'r ffenomen yn ystod ymweliad David Cameron a Nick Clegg a'r cynulliad bythefnos yn ôl.

Wrth drafod cwestiynau traws-ffiniol cyfeiriodd Nick Clegg at "the difference between the border between England and Wales and the border between the UK and Scotland". Cywirodd y Dirprwy Brif Weinidog ei hun yn ddigon handi ond efallai bod y fagl fach yna'n adrodd cyfrolau!