Ymlaen i'r Gorffennol

  • Cyhoeddwyd
  • comments

Dyma gwestiwn cwis tafarn da i chi - "ym mha gyfnod yr oedd dwy o bleidiau seneddol San Steffan yn cael eu harwain gan Gymry Cymraeg?"

Yr ateb yw'r cyfnod rhwng 1951 a 1956 pan oedd aelod Maldwyn, Clem Davies yn arwain y Rhyddfrydwyr annibynnol a Gwilym Lloyd-George, aelod Newcastle Upon Tyne (North) yn arweinydd answyddogol ar y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol.

Nawr mae dilyn hanes gwahanol garfanau'r blaid Ryddfrydol yn yr ugeinfed ganrif yn gallu hela cur pen ar ddyn! Serch hynny, roedd y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol ar eu hanterth yn blaid rymus a dylanwadol neu o leiaf yn fwy grymus a dylanwadol na'r gwehilion truenus wnaeth esgor ar Ddemocratiaid Rhyddfrydol ein dyddiau ni.

Traflyncwyd y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol yn derfynol gan y Ceidwadwyr yn 1968 ond plaid byped oedd hi o ddechrau'r pumdegau ymlaen - wyneb mwy derbyniol i'r Torïaid mewn etholaethau oedd a thraddodiad Rhyddfrydol cryf.

A dyma ni yn 2013 ac mae'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol yn ôl yn y newyddion. Hynny oherwydd awgrym y Gweinidog Cynllunio Nick Boles y dylid ail-sefydlu'r blaid er mwyn apelio at bleidleiswyr sydd y tu hwnt i afael y Ceidwadwyr er eu bod yn cytuno a llawer o'u polisïau a'u daliadau.

Pwy yw'r bobl hynny? Mae gan lywydd YouGov, Peter Kellner, ddadansoddiad treiddgar iawn o'r ffenomen yn fan hyn, dolen allanol. Pobol ddaearyddol yw hi yn y bôn yn ôl Kellner. Mae'r union fath o bobol y byddai'n debygol o gefnogi'r Ceidwadwyr yn ne a chanolbarth Lloegr yn amharod i wneud hynny yng ngogledd Lloegr. Dyma'i esboniad o'r rheswm.

It's not because they are poorer, or more pessimistic, or further Left or more reliant on the state for their job: they aren't - or, at any rate, not enough to explain their reluctance to vote Conservative. Nor is it because of what the coalition has actually done in the past three years - at most, this explains a fraction of the difference.

In the end, the Tories' problem is not what they do; it's what they are. Their trouble is their brand. They lost Scotland because they lost their reputation as a unionist party and came to be seen as an English party. They are losing the North because they are seen increasingly as a Southern party.

Rwy'n meddwl bod hi'n deg i ddweud bod sylwadau Peter Kellner ynghyd a chyflwr yr arolygon barn wedi achosi peth pryder os nad panig ymhlith rhai sylwebwyr asgell dde.

Fe fydd hi bron yn chwarter canrif ers i'r Ceidwadwyr ennill mwyafrif seneddol erbyn i ni gyrraedd yr Etholiad Cyffredinol nesaf ac erbyn hyn mae ton gron i'w glywed ar wefannau ceidwadol eu hanian - os na fedrwn ni ennill yn 2011 na 2015 pryd y byddai'n bosib i ni ennill?

Ateb Nick Boles yw'r broblem yw'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol - plaid asgell dde a fyddai'n apelio at bobol sy'n dioddef o alergedd gwleidyddol pan ddaw hi at y Ceidwadwyr.

Dyw'r peth ddim am ddigwydd ond mae'n arwyddocaol bod gweinidog Ceidwadol yn gallu cael getawe a hyd yn oed crybwyll y fath syniad.

Nid bod chwaer bleidiau'n bethau gwbl ddieithr ym Mhrydain wrth gwrs. Mae gan Lafur ei chwaer fach - y Blaid Gydweithredol. Efallai y dylid taenu lliain dros honno yn sgil digwyddiadau'r wythnos diwethaf!