Bwydo'r Bwystfil

  • Cyhoeddwyd

Es i am dro ddoe i Fancyfelin - neu Millbank fel mae'r trigolion lleol yn dweud. Dydw i ddim yn sicr os ydy hi'n dderbyniol i Gymro gyfaddef ei fod yn hoff o Lundain ond rhaid dweud fy mod yn eithaf mwynhau ymweld â'r lle bob hyn a hyn - yn fwyaf arbennig er mwyn crwydro strydoedd y peth agosaf sydd gennym ym Mhrydain at fetropolis.

Yr hyn sy'n drawiadol am grwydro Llundain ar hyn o bryd yw'r nifer anghredadwy, bron o brosiectau adeiladu sydd ar eu hanner neu wedi eu cwblhau. O gwmpas gorsaf Fictioria'n unig fe gyfrais i hanner dwsin o ddatblygiadau sylweddol iawn. Pa mor sylweddol? Wel, mwy sylweddol nac unrhyw beth sy'n cael ei hadeiladu yng Nghymru ar hyn o bryd.

A dyna chi rhifyn ddoe o'r Evening Standard. Dyma i chi dri phennawd o'r un tudalen.

Southbank Centre plans tweaked to include giant glass pavilion after design backlash

George Osborne gives £30million and his seal of approval to London's Garden Bridge

'Olympicopolis': Multi-million pound cultural hub planned for Olympic Park

Anaml iawn y gwelwch i un pennawd felly yn y Daily Post neu'r Western Mail!

Dyma ni'n dod felly at y ddannodd ym mywyd economaidd a gwleidyddol Prydain - yr anghyfartaledd rhyfeddol rhwng de-ddwyrain Lloegr a gweddill y Deyrnas.

O ddefnyddio'r mesur gorau - y GVA mae gan bob Llundeiniwr werth economaidd o £35,638. £15,696 yw gwerth economaidd trigolion y rhanbarth dlotaf.

Oes angen dweud p'un yw 'rhanbarth' dlotaf y DU? Mae ganddi ddraig ar ei baner.

Ar hyd y degawdau mae Llywodraethau o bob lliw a llun yn San Steffan wedi cyfaddef bod yna broblem. Ond sut ar y ddaear mae darbwyllo buddsoddwyr preifat, yn enwedig y rheiny o dramor i ledaenu eu haelioni? Dyna, o leiaf yw'r gri.

Ond arhoswch eiliad pwy sy'n talu am y "giant glass pavilion" y "London Garden Bridge" ac 'Olympicopolis'?

Mae 'na elfen o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar bob un ohonyn nhw a dyw pethau ddim yn stopio yn fanna. Dyma i chi ddau ystadegyn y des i ar eu traws yn ddiweddar.

Yn ôl y grŵp polisi IPPR North mae Llywodraeth y DU ar hyn o bryd yn gwario £2,600 ar wella isadeiledd trafnidiaeth yn Llundain. £5 y pen yw'r ffigwr gyfatebol yng ngogledd-ddwyrain y wlad.

Yn 2012-13 gwariodd Cyngor Celfyddydau Lloegr ynghyd a'r adran dreftadaeth £2,600 y pen ar y celfyddydau yn Llundain. £4.60 y pen oedd y gwariant y tu allan i'r M25.

Dyma i chi frawddeg na chlywir yn aml ym Mae Caerdydd. Diolch byth am Fformiwla Barnett. Beth bynnag yw ei ffaeleddau mae'r fformiwla yn rhoi rhyw fath o amddiffynfa i Gymru.

Cofiwch, mae'n ddigon hawdd i'r meddyliau mawr y Trysorlys anwybyddu'r fformiwla honno os ydyn nhw'n dewis gwneud. Maen nhw wedi gwneud o'r blaen ac maen nhw'n debyg o wneud eto. Wedi'r cyfan os oes angen bwydo'r bwystfil yn eu gardd cefn pwy yw deiliaid Whitehall a Phalas San Steffan i ddweud na?