Mawr fydd dy wobr

  • Cyhoeddwyd

Ar y cyfan rwy'n tueddu meddwl bod 'na ormod o seremonïau gwobrwyo yn y byd yma. Pam ar y ddaear bod angen y "Sun Military Awards", er enghraifft? Onid yw medal yn ddigon? Mae'n debyg bod 'na hyd yn oed seremoni gwobrwyo ar gyfer trefnwyr seremonïau gwobrwyo. Pob lwc i chi wrth i chi geisio dod o hyd i honna ar y we!

Yng Nghymru'n arbennig rwy'n teimlo bod ni'n wlad rhy fach i'r pethau yma a bod 'na elfen o "wobr i bawb" yn perthyn iddyn nhw. Yn enwedig mewn cyfnod o gynnu mae 'na rywbeth Marie Antoinette-aidd braidd mewn gweld gwleidyddion, neu bobl y cyfryngau o ran hynny, yn ymgasglu mewn ystafell er mwyn curo cefnau ei gilydd.

Ond pwy wyf fi i wrthsefyll ysbryd yr oes. Pam mae pob Shan a Siencyn a'u gwobrwyon sut fedra i wrthsefyll y demtasiwn? Dyma nhw fel Gwobrwon Gwleidyddol 2013 neu fel mae pobl yn y busnes yn eu galw nhw y "Vaughans".

Ymgyrchydd y Flwyddyn; Pwy ond Leighton Andrews? Roedd ei barodrwydd i sefyll dros ei ddaliadau yn ysbrydoliaeth i brotestwyr ym mhobman. Ydy hi'n ormodedd i ddweud taw Leighton yw Brian Haw Bae Caerdydd? Ydy.

Rhaglen Wleidyddol y Flwyddyn heb os oedd Pobol y Cwm. A lwyddodd unrhyw raglen arall i fynd dan groen Carwyn Jones i'r un graddau? Anodd yw peidio dyfarnu mai Cadno yw Sylwebydd Gwleidyddol y Flwyddyn am ei dadansoddiad treiddgar o'r cynllun difa moch daear.

Ymlaen â ni i fyd Llywodraeth Leol ac mae gwobr Lasarus y Flwyddyn wedi ei dyfarnu i Grŵp Annibynnol Cyngor Ynys Môn. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwrw hoelen bren trwy galon annibynwyr Môn ac wedi eu claddu mewn arch llawn garlleg dan ddwy dunnell o goncrit. Ond ar y trydydd dydd...

Fe wnawn ni aros ar Ynys Môn ar gyfer gwobr Ymgeisydd y Flwyddyn sydd wedi ei dyfarnu i Tal Michael am ennill y goron drifflyg trwy ymgeisio i fod yn Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd, Aelod Cynulliad Môn ac ymgeisydd seneddol Llafur Arfon. Y cymryd rhan sy'n bwysig wedi'r cyfan.

Mae Gwobr Goffa Rhodri Morgan yn cael ei dyfarnu'n flynyddol i wobrwyo pobol sydd yn ymdrin â gramadeg a chystrawen mewn modd avant garde a gwreiddiol. Andrew RT Davies yw'r enillydd eleni. Such as it is then then.

Noddir y Wobr Ffasiwn gan y Gymdeithas y Gwneuthurwyr Teis. Roedd hi'n gystadleuaeth eleni rhwng Peter Black a'i ystod eang o deis liwgar ac Alun Cairns a'i gyfuniadau crys a thei diddorol, blaengar a heriol. Am y deuddegfed flwyddyn yn olynnol Peter Black sy'n mynd â hi.

Dyna ddiwedd y gwobrwyon ond mae gen i broblem. Mae'n rheol euraidd mewn seremoni wobrwyo wleidyddol bob yn rhaid gwobrwyo o leiaf un aelod o bob plaid a hyd yma does neb o Blaid Cymru wedi cael gafael ar "Vaughan"!

Dyma ni felly. Dyfarnir y "wobr i rywun o Blaid Cymru oherwydd bod yn rhaid i rywun o Blaid Cymru cael gwobr" i Lindsay Whittle.

Pam Lindsay Whittle? Wel, Mae'n hen gyfaill i mi ac onid gwobrwo eich mets yw holl bwynt seremoni wobrwyo?

A dyna am 2013. Fe siaradwn ni eto yn y flwyddyn newydd.