Pan gynta'm pin mewn llaw gymmerais
- Cyhoeddwyd
- comments
Nid yn aml y mae Llywodraethau Prydain yn newid eu lliw. Mae hynny wedi digwydd saith o weithiau ers 1945 ac roedd pedwar o'r etholiadau hynny yn y pymtheg mlynedd o gythrwbl economaidd rhwng 1964 a 1979.
Honnir weithiau mai'r gyfundrefn bleidleisio 'cyntaf i'r felin' sy'n gyfrifol am hynny ond gwelir patrwm digon tebyg mewn gwladwriaethau aeddfed eraill sydd â chyfundrefnau pleidleisio gwahanol.
Yn Awstralia, gwlad sy'n defnyddio'r bleidlais amgen, cafwyd union yr un nifer o newidiadau a Phrydain ers 1945.
Dim ond pedwar o lywodraethau'r Almaen sydd wedi colli grym mewn etholiad ers sefydlu'r wladwriaeth ffederal yn 1949 - hynny er bod y wlad o'r cychwyn wedi defnyddio cyfundrefn bleidleisio gyfrannol.
Os nad y gyfundrefn bleidleisio sy'n gyfrifol sut mae esbonio'r ffenomen - yn enwedig o gofio bod y rhan fwyaf o lywodraethau yn amhoblogaidd y rhan fwyaf o'r amser?
Mae'n ystrydeb braidd i ddweud bod pob etholiad yn ddewis rhwng "cadw at y llwybr cul" ac "amser am newid". Dyw ffaith bod rhywbeth yn ystrydeb ddim yn golygu nad yw hi'n wir wrth gwrs. Yr hyn sy'n rhyfedd yw bod yr etholwyr, yn amlach na pheidio, yn dewis y llwybr cul yn hytrach na chael eu temtio gan ffair gwagedd. Fe fyddai John Bunyan yn blest!
Gellir crynhoi dadl y "llwybr cul" mewn un slogan etholiadol. Defnyddiwyd "Life's better with the Conservatives - Don't let Labour ruin it" neu amrywiaeth ohoni gan bob llywodraeth Geidwadol ers dyddiau Harold Macmillan a does dim dwywaith mai dyna fydd hanfod neges David Cameron yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
A fydd hynny ddigon? Wel wrth i feddyliau gwleidyddion a newyddiadurwyr droi at 2015 dyma ambell i ystadegyn i chi.
Er mwyn ennill mwyafrif seneddol fe fyddai angen gogwydd o riw 2% ar y Ceidwadwyr yn 2015. Fe fyddai gogwydd tebyg tuag at Lafur yn sicrhau mai hi fyddai'r blaid fwyaf mewn senedd grog. Fe fyddai angen gogwydd o 5% ar Lafur er mwyn ffurfio Llywodraeth yn ei rhinwedd ei hun.
Cafwyd gogwydd o ddau y cant neu'n fwy mewn un ar ddeg o'r etholiadau ers 1945. Dim ond teirgwaith y cafwyd gogwydd o bump y cant neu'n fwy. Ar sail y record hanesyddol felly mae llywodraeth Geidwadol yn fwy tebygol nac un Llafur.
Ar ôl dweud hynny mae 'na hen ddigon o dystiolaeth bod etholwyr yn llawer llai llwythol nac y buon nhw. Mewn cyfnod o gynnu economaidd mae'n ddigon posib felly y gwelwn ni newidiadau cyson yn nhenantiaith 10, Downing Street fel y digwyddodd yn ôl y chwedegau a'r saithdegau.
Hyd y gwn i does dim un newyddiadurwr na seffolegydd yn fodlon rhoi ei ben ar y bloc ynghylch canlyniad 2015 hyd yma. Am y rhesymau uchod a chyda refferendwm yr Alban i ddod dydw i ddim am fod yn eithriad yn hynny o beth. Serch hynny, rwy'n fodlon mentro un sylw. Gyda'r etholiad ar y gorwel mae seflyllfa'r blaid Lafur llawer yn gryfach nac y byddai unrhyw un wedi proffwydo ar ôl ei hunllef yn 2010.
"Game on" fel maen nhw'n dweud. Mae 'na gyfnod difyr iawn o'n blaenau!