Ai, Ai, Ai, Delilah?
- Cyhoeddwyd
- comments
Dyw e ddim yn hawdd bob tro i lunio pennawd i'r golofn fechan hon. Weithiau fe ddaw ysbrydoliaeth o rywle; ar adegau eraill cwympo yn ôl ar ddyfyniad yw'r dacteg orau.
Mae rhai o'r rheiny yn fwy adnabyddus na'i gilydd. Mae'n debyg bod rhai ohonoch yn gwybod yn syth mai llinell gyntaf Taith y Pererin oedd pennawd post ddoe. I'r rheiny nad oedd yn gyfarwydd â "Pan gynta'm pin mewn llaw gymerais" roedd y cyfeiriadau at "Ffair Gwacter" a John Bunyan yn y post ei hun yno i'ch arwain o'r lan.
Wrth gwrs mae ambell i ddyfyniad mor gyfarwydd nad oes angen cynnwys cliwiau yn y post. Fe fyddai llinell o emyn cyfarwydd neu adnod adnabyddus yn enghreifftiau o'r rheiny - neu felly yr oeddwn i'n meddwl!
Dros y Nadolig bues i'n dal lan ar nifer o gyfresi teledu'r flwyddyn ddiwethaf. Yn eu plith roedd rhaglen pry ar wal BBC Cymru "The Call Centre". Dyw'r fath yna o raglen ddim at fy nant i bob tro ond roedd hon yn ddigon difyr a diddorol nes i fi gyrraedd y bennod lle'r oedd y rheolwr anghymeradwy Nev yn trefnu cystadleuaeth i ddewis wyneb a llais i'r diwydiant galwadau yng Nghymru.
Roedd y dasg i'r staff yn un ddigon syml ar yr olwg gyntaf. Rhaid oedd adrodd neu ganu pennill gyntaf Cwm Rhondda. Nid cyfeirio at "Arglwydd Arwain Trwy'r Anialwch" nac hyd yn oed "Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd" ydw i yn fan hyn ond y fersiwn Saesneg "Guide Me Oh Though Great Jehovah". Siawns fod pawb yn gyfarwydd â honna!
Nid felly yn drydedd ganolfan alwadau fwyaf yn Abertawe. Un yn unig o'r hanner dwsin wnaeth gystadlu oedd yn gyfarwydd â'r dôn a doedd bron neb yn gyfarwydd â'r geiriau. Dyma i chi sgwrs rhwng dwy weithwraig ifanc.
"I am weak but though are mighty"
"Is that Welsh or what?"
"Hold me with thy powerful hand... have you seen the stuff I've got to read?"
"How many Welsh people do you know that actually speak Welsh?"
"Well I'm Welsh but this is not Welsh, it's English."
"Is it? Why don't I understand it then?"
Ble mae dechrau, dywedwch?
Fel un o linach Pantycelyn efallai fy mod yn ymfalchïo gormod yn ei waith. Efallai nad yw'r ffaith nad yw'r genhedlaeth iau yn gyfarwydd â'i emyn Saesneg enwocaf mor arwyddocaol â hynny.
Ar y llaw arall mae'n un o'r ychydig ganeuon sydd o hyn yn cael eu canu yn ystod ein "gêm genedlaethol" ac oni ddylai unrhyw un sydd wedi cael ei addysg yng Nghymru o leiaf gallu gwahaniaethu rhwng y Gymraeg a'r Saesneg?
Beth ar y ddaear mae plant yn gwneud yn yr ysgol y dyddiau hyn?
Ai "Delilah" fydd yr unig beth ar ôl?
Gyda llaw cyfeiriad at gân boblogaidd o ganol yr ugeinfed ganrif yw'r pennawd.