Mae'r Lifft yn Styc
- Cyhoeddwyd
- comments
Ers rhyw bythefnos bellach dyw un o'r ddwy lift sy'n cysylltu swyddfeydd y cabinet yn Nhŷ Hywel a'r Senedd ddim wedi bod yn gweithio. "Disgwyl am y darn" yw'r esgus, mae'n debyg, ond roedd sylw un aelod o'r gwrthbleidiau nad oedd Llywodraeth Cymru hyd yn oed yn gallu cael y lifft i weithio yn anorfod efallai!
Mae'n debyg bod y Gweinidog Addysg presennol Huw Lewis a Leighton Andrews yn teimlo'r un fath o rwystredigaeth. Cyflwynwyd pob math o gynlluniau a newidiadau i geisio gwella'n hysgolion. Yn ôl pobl a ddylai wybod, arolygwyr ysgol, prifathrawon a'u tebyg, fe ddylai'r cynlluniau hynny ddwyn ffrwyth. Dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny eto. Mae'r lifft yn styc.
Yr hyn sy'n gwneud y sefyllfa'n anoddach i'r Llywodraeth yw'r ffaith nad oes 'na neb arall i feio am gyflwr addysg yng Nghymru. Mae gweinidogion Llafur wedi bod yn gyfrifol am addysg yng Nghymru ers 1997 ac roedd Carwyn Jones yn un ohonyn nhw.
Beth wnawn ni felly o sylw'r Prif Weinidog bod Llywodraeth Cymru wedi "cymryd ei llygad oddi ar y bel" ym maes addysg? At beth mae fe'n cyfeirio, tybed? Nid ei gyfnod ei hun fel Gweinidog Addysg, siawns?
O dwrio'n ymhellach mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn credu ei bod wedi canolbwyntio gormod ar y cyfnod sylfaen a'r fagloriaeth Gymreig yn ystod ei blynyddoedd cynnar. Nid bod y rheiny yn bethau gwael ynddyn nhw hun ond fe esgeuluswyd rhannau eraill o'r gyfundrefn - yn fwyaf arbennig addysg ym mlynyddoedd 7,8 a 9.
Nawr does neb yn enwi enwau, wrth reswm ond mae'n ymddangos bod y bys yn cael ei bwyntio at Jane Davidson oedd yn Weinidog Addysg rhwng 2000 a 2007. Mae hi bellach wedi gadael y byd gwleidyddol ac felly yn fwch dihangol digon cyfleus.
Mae'r sefyllfa yn amlygu un nodwedd fach gas ym mywyd gwleidyddol Cymru. Mewn gwledydd lle mae un blaid mewn grym blwyddyn ar ôl blwyddyn, degawd ar ôl degawd, mae'r angen i feio llywodraethau'r gorffennol am wendidau heddiw yn drech na theyrngarwch pleidiol na chyfeillgarwch personol. Mae hynny'n wir yn fan hyn, mae gen i ofn.
Yn y cyfamser mae'r lifft yn styc.