Cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn
- Cyhoeddwyd
- comments
Does dim tystiolaeth, hyd y gwn i, bod brogarwch yn gryfach yng Nghymru nac yn unrhyw le arall. Mae'n wir, fi'n meddwl, bod y Cymry yn tueddu gofyn "un o ble wyt ti" o gwrdd â rhyw un am y tro cyntaf tra bod y Saeson yn ffafrio "what do you do?" ond dydw i ddim yn sicr faint o arwyddocâd sy 'na i hynny.
Serch hynny, wrth i Gomisiwn Williams lunio ei argymhellion ar gyfer adrefnu llywodraeth leol yng Nghymru mae'n debyg bod yr aelodau yn ymwybodol y byddai eu hargymhellion yn wynebu'r gwrthwynebiad mwyaf mewn ardaloedd lle mae enw'r cyngor yn golygu rhywbeth i'r trigolion - llefydd fel Bro Morgannwg, Sir Benfro a Sir Fynwy.
Mae'n rhywbeth arall yn gyffredin rhwng yr ardaloedd yna hefyd. Maen nhw i gyd yn cael eu cynrychioli gan Geidwadwyr yn San Steffan. Gydag ychydig dros flwyddyn tan yr etholiad cyffredinol nesaf - ydy'r Torïaid yn mynd i gefnogi polisi sy'n debyg o fod yn amhoblogaidd yn yr ardaloedd hynny - yn fwyaf arbennig ymhlith y selogion Ceidwadol?
Ar y llaw arall, mewn cyfnod o gynnu ariannol a hithau'n ymgyrchu ar sail ei chrintachrwydd ariannol ydy'r blaid am gael ei gweld yn amddiffyn cyfundrefn sydd, yn ôl Comisiwn Williams, yn wastraffus ac aneffeithlon?
Mae'r Ceidwadwyr mewn tipyn o gyfyng gyngor mewn gwirionedd. Y senario fwyaf tebygol yn fy marn i yw y bydd y blaid am gael ei gweld yn cymryd rhan mewn 'trafodaethau adeiladol' ynghylch argymhellion y Comisiwn gan eu gwrthod ar ddiwedd y dydd - o leiaf yn achosion y cynghorau uchod.
Rwy'n amau y bydd Carwyn Jones yn hanner disgwyl i hynny ddigwydd ond ei fod yn ddigon parod i fwrw ymlaen a'r cynlluniau heb gefnogaeth y Ceidwadwyr.
Mae cefnogaeth Plaid Cymru yn fater arall. Dyw e ddim yn gyfrinach bod y cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn y Cynulliad diwethaf wedi bod yn brofiad digon dymunol i'r ddwy blaid - neu i'w meinciau blaen o leiaf. Mae 'na waddol o ewyllys da o hyd.
Y cwestiwn mawr yw a fyddai Plaid Cymru yn fodlon cefnogi argymhellion Comisiwn Williams heb ryw fath o addewid ynghylch cynrychiolaeth gyfrannol mewn etholiadau lleol? Rwyf wedi nodi o'r blaen y byddai addewid o'r fath yn beth anodd iawn i Carwyn Jones werthu i'w blaid.
O siarad ag ambell aelod o Blaid Cymru rwy'n cal yr argraff y byddai modd i Carwyn cael dêl oedd yn dderbyniol i Lafur ond fe fyddai 'na bris i'w dalu. Gellir enwi'r pris hwnnw mewn un gair. Dyfed.