Pwy Fydd Yma 'Mhen Can Mlynedd?
- Cyhoeddwyd
- comments
Fe fydd 'na sawl canmlwyddiant yn cael eu coffàu yn ystod 2014. Cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf yw'r mwyaf ohonyn nhw ond dyma i chi un bach arall. Ar Ionawr 30ain, 1914 etholwyd Aneurin Williams fel Aelod Seneddol Gogledd Orllewin Durham mewn is-etholiad.
Un o Ddowlais oedd Aneurin ac roedd yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn or-ŵyr i Iolo Morgannwg. Prin oedd ei Gymraeg yntau ond roedd wedi etifeddu hen ddigon o radicaliaeth ei gyndad. Roedd yn frwd o blaid hunanlywodraeth i'r Iwerddon, datgysylltu'r Eglwys yng Nghymru, rheolaeth y gweithwyr mewn diwydiant a rhoi'r bleidlais i fenywod. Mae'n debyg mai llywio'r ddeddfwriaeth i ymestyn y bleidlais i ferched trwy'r senedd oedd ei orchest bennaf ac fe safodd ei ferch Ursula yn aflwyddiannus yn hen etholaeth ei thad yn 1923.
Mae'n debyg eich bod yn synhwyro taw Rhyddfrydwr oedd yr hen Aneurin. Tybed beth fyddai ganddo fe i ddweud am yr helbulon y mae ei blaid ynddo ar hyn o bryd?
Dim byd, mwy na thebyg. Wedi'r cyfan fe gadwodd pawb yn dawel am ddwylo crwydrol Lloyd George! Ta beth am hynny beth am godi gwydred bach i gofio un o wleidyddion pwysig ond anghofiedig Cymru fach?