E-bost
- Cyhoeddwyd
- comments
Rwy'n ddiolchgar i Kay Swinburne, ASE y Ceidwadwyr, am dynnu fy sylw ar y ffaith taw dim ond can niwrnod sydd 'na i fynd tan etholiadau Ewrop. Efallai eich bod yn cofio bod Kay wedi cyflawni tipyn o gamp yn ôl yn 2009. Yn yr etholiad hwnnw am y tro cyntaf ers 1918 pleidleisiodd mwy o bobl Cymru i'r Ceidwadwyr nac i Lafur.
Disgrifiwyd y canlyniad hwnnw fel un 'hanesyddol' ar y pryd. Efallai byddai 'ffliwc' wedi bod yn well disgrifiad! Gallwn fod yn weddol saff nad Kay fydd ar frig y rhestr yn 2014. Mae'r amgylchiadau gwleidyddol ehangach wedi newid a'r tro yma fe fydd Ukip yn brathu ar sodlau'r Ceidwadwyr.
Yn wir pe bai pleidleiswyr Llafur yn troi mas mewn niferoedd mae'n bosib y byddai'n meistri traddodiadol nid yn unig yn ôl ar frig y rhestr ond yna gyda digon o bleidleisiau i gipio ail sedd. Y broblem i Lawr wrth gwrs yw bod y "pe bai" yna yn un enfawr. Eistedd ar eu dwylo y mae trwch cefnogwyr traddodiadol Llafur pan ddaw'r cyfle i ddewis aelodau Ewropeaidd.
Draw ar Flog Menai, dolen allanol mae Cai Larsen wedi cyhoeddi tabl difyr o'r bleidlais yn 2009 fesul etholaeth. Does dim angen mynd ym mhellach na'r llinell gyntaf i weld y broblem i Lafur. Yn Aberafan dim ond 5,197 wnaeth bleidleisio i Lafur - 35.11% o'r cyfanswm. Flwyddyn yn ddiweddarach yn etholiad cyffredinol 2010 derbyniodd Hywel Francis 16,073 o bleidleisiau - ychydig dros hanner y pleidleisiau a fwrwyd.
Dyna'r rheswm y mae angen llond bwced o halen wrth ystyried arolygon barn fel un YouGov cyn y Nadolig wnaeth awgrymu y gallasai Llafur gipio dwy sedd gyda Kay yn cadw ei sedd hi a Phlaid Cymru ac Ukip yn brwydo am y sedd olaf. Byswn i'n rhyfeddu pe bai hynny'n digwydd.
A dweud y gwir mae'n anodd iawn rhagweld unrhyw ganlyniad lle nad yw Llafur, y Torïaid, Plaid Cymru ac Ukip yn ennill un sedd yr un. Gallai'r union drefn newid heb effeithio dim ar liwiau carfan Cymru ym Mrwsel a Strasbwrg.
Sut ar y ddaear mae gwneud hynny'n ddiddorol am gan niwrnod?