Y Cyllyll Hirion
- Cyhoeddwyd
- comments
Sut mae dechrau hwn, dywedwch? Efallai mai ymateb Jeremy Thorpe i benderfyniad Harold Macmillan i ddiswyddo traean o'i gabinet yw'r lle gorau!
"Greater love hath no man than this - that he lay down his friends for his life," ebe Thorpe wrth i Macmillan gyflawni cyflafan wleidyddol.
Nawr mae Andrew R.T Davies wedi cyflawni cyflafan debyg gyda phedwar o aelodau cynulliad y Ceidwadwyr wedi eu darostwng i'r meinciau cefn. Ar ddiwrnod pan oedd hanner Cymru yn cael ei siglo gan stormydd Beiblaidd cafodd cyhoeddiad yr arweinydd Ceidwadol lai o sylw na'i haeddiant efallai. Mae hynny'n ddealladwy ond gadewch i ni fod yn gwbl eglur beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn.
Hon yw'r hollt waethaf yn rhengoedd unrhyw blaid yn hanes y cynulliad. Mae'n rhan o ryfel gymharol agored rhwng Andrew R.T Davies yn y Cynulliad a David Jones yn Swyddfa Cymru. Hynny yw, mae'r deuddyn sydd ar frig Ceidwadwyr Cymru wrth yddfau ei gilydd - ac mae traean o'r grŵp yn y cynulliad wedi dewis ochri gyda'r ysgrifennydd gwladol.
Union fanylion y cynlluniau i ddatganoli pwerau trethi i'r Cynulliad yw asgwrn y gynnen. Yn benodol mae David Jones yn cefnogi amod y Trysorlys na fyddai'r cynulliad yn cael amrywio'r gagendor rhwng gwahanol fandiau treth incwm. Dyw Andrew R.T Davies ddim yn cytuno.
Wythnos yn ôl fe ddywedodd Andrew hynny wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Rhai oriau'n ddiweddarach mynnodd yr ysgrifennydd gwladol bod "arweinydd y grŵp yn y cynulliad" (disgrifiad David o swydd Andrew) yn mynegi barn bersonol.
Mewn datganiad mynnodd "arweinydd Ceidwadwyr Cymru" (disgrifiad Andrew, ac o ran hynny David Cameron, o'i swydd) ei fod yn mynegu barn unfrydol y grŵp. Ddeuddydd yn ôl fe wnaeth pedwar aelod cynulliad anwybyddu'r chwip ac ymatal ar bleidlais yn beirniadu'r clo. Y pedwar yna wedi cael y sac.
Gadewch i fi fod yn gwbl eglur yn fan hyn.
Mae'r grŵp Ceidwadol wedi ei hollti ynghylch un agwedd o ddrafft mesur yn ymwneud a phwerau na fyddai'n cael eu trosglwyddo heb refferendwm - refferendwm sy'n annhebyg o gael ei gynnal am flynyddoedd maith - os o gwbwl.
Beth ar y ddaear sy'n mynd ymlaen?
Os ydych chi'n gwrando ar sbin-feddygon y Torïaid yn y Bae mae'r penderfyniad yn rhan o frwydr gan Andrew i foderneiddio'r blaid a'i galluogi i gynnig cyfres o doriadau treth yn etholiad 2016.
Efallai. Ond efallai bod a wnelo personoliaethau lawer a'r hyn sy'n mynd ymlaen hefyd. Does dim llawer o Gymraeg rhwng Nick Ramsay ac Andrew R.T Davies ers i'r ddau ymgiprys am yr arweinyddiaeth yn ôl yn 2011. Dyw Andrew a David ddim yn cyd-dynnu'n hawdd chwaith a gallwn ond ddyfalu both oedd ymateb Andrew i sylwadau David Jones gerbron y pwyllgor dethol.
Beth sy'n debyg o ddigwydd nesaf? Y gwir plaen yw dydw i ddim yn gwybod ond dydw i ddim yn credu chwaith y gall pethau barhau fel hyn. A fydd rhywun, Downing Street efallai, yn ceisio cnocio pennau at ei gilydd?
Fe wnes i gychwyn gyda dyfyniad Saesneg. Dyma un arall i chi.
"Things fall apart; the centre cannot hold."