Cam-gymeriad
- Cyhoeddwyd
- comments
Rhywle yn y tŷ mae gen i gerdyn bach a gynhyrchwyd yn ôl yn yr wythdegau. Rhyw un yn y blaid Lafur oedd yn gyfrifol am y cardiau, rwy'n meddwl ac arnynt roedd y geiriau "In the event of emergency - Not to be visited in hospial by Margaret Thatcher".
Rwy'n meddwl taw Mrs T oedd y Prif Weinidog i gredu ei bod hi'n bwysig i ddeiliad rhif deg gael ei weld yn cysuro'r anffodusion yn sgil trychineb neu drybini.
Mae 'na ambell i enghraifft o hynny'n digwydd cyn dyddiau Thatcher ond maen nhw'n brin. Roedd ymweliad Harold Wilson ac Aberfan ddeuddeg awr ar ôl y trychineb yn cael ei weld fel peth anarferol iawn ac yn arwydd o ba mor ddirdynnol oedd yr erchyll beth.
Mae David Cameron wedi hen ddysgu'r wers bod disgwyl i arweinydd gael ei weld. Yn ôl yn 2007 peryglwyd ei arweinyddiaeth ei hun gan benderfyniad i fwrw ymlaen ac ymweliad a Rwanda tra bod miloedd o erwau o'i etholaeth ei hun dan y don. Dyw e ddim am wneud yr un camgymeriad eto!
Dyw cael eich ffilmio gydag etholwyr sy'n poeri gwaed am fethiannau honedig yr awdurdodau ddim yn gyhoeddusrwydd da wrth gwrs - ond fe fyddai cadw draw yn esgor ar waeth.
Dyna pam yr oedd David Cameron yn Aberystwyth heddiw fel rhan o bererindod ryfedd i ymweld â holl gorsydd a llynnoedd newydd yr ynysoedd hyn. Does dim ofer esgeulustod i fod. Mae'r Prif Weinidog ar y twr. Dyw David Cameron ddim yn Seithennyn nac yn Gwyddno Garanhir!
Pan ofynnwyd i Mr Cameron heddiw beth oedd pwrpas ei ymweliad esboniodd ei fod am ddiolch i'r gweithwyr argyfwng a "dysgu gwersi". Pa wersi'n union - wel y rheiny a fyddai o ddefnydd iddo wrth gadeirio cyfarfodydd Cobra.
Dydw i fawr callach!