Carwyn y Cenedlaetholwr?
- Cyhoeddwyd
- comments
Rwy'n cymryd y bydd y rhan fwyaf ohonoch chi'n gyfarwydd â dyddiau "cwrdd i ffwrdd" lle mae gweithwyr yn dod at ei gilydd i ffwrdd o'r gweithle er mwyn trafod sut mae pethau'n mynd.
Roedd un o'r rheiny gen i ddoe. Nid ein bod wedi teithio ymhell - dim ond dros yr heol o'r Ganolfan Ddarlledu i Dŷ Oldfield. Mae'r anti yn carco ei cheiniogau'r dyddiau hyn. Trafod etholiadau Ewrop a refferendwm yr Alban oedd pwrpas y cyfarfod. Gan fod y pethau yma'n gallu bod yn ddigon diflas fe benderfynais i fod yn bryfoclyd pan ddaeth fy nhro i i siarad trwy ofyn cwestiwn rwyf wedi bod yn meddwl amdano'n ddiweddar sef hwn - ydy Carwyn Jones yn genedlaetholwr?
Rwy'n sianelu'r Athro Joad o'r Brains Trust trwy ddweud bod yr ateb yn dibynnu ar beth yw'ch diffiniad chi o genedlaetholwr. Yn sicr dyw Carwyn ddim yn credu mewn annibyniaeth i Gymru ac mae e wedi mynnu droeon ei fod yn falch o fod yn Brydeiniwr yn ogystal â Chymro. Ydy e wir yn teimlo felly? Pwy ydw i i ddweud?
Rwyf yn credu bod Carwyn mewn lle deallusol ychydig yn wahanol i weddill ei blaid. Yn ei ddarlith ddiweddar, dolen allanol yng Nghaeredin fe gyflwynodd Carwyn amddiffyniad cryf o'r cysyniad o Brydain. Ond nid y Deyrnas Unedig fel y mae hi oedd ganddo mewn golwg ond gwladwriaeth â chyfansoddiad modern wedi ei gytuno rhwng llywodraethau San Steffan, Bae Caerdydd, Holyrood a Stormont.
Beth mae hynny'n golygu mewn gwirionedd? I fi, mae'n awgrymu bod Carwyn am ddiddymu'r setliad cyfansoddiadol a orfodwyd ar Gymru gan Thomas Cromwell a'r holl ddatblygiadau a lifodd o hynny. Yn y bôn, tri chwarter mileniwm wedi lladd Llywelyn II, mae Carwyn am sicrhau cytundeb heddwch â Lloegr - gyda Chymru wrth y bwrdd y tro hwn! Mae 'na rywbeth cenedlaetholgar iawn ynghylch y syniad yna!
Nawr fe ddywedais i fy mod i'n bod yn fwriadol bryfoclyd.
Mewn gwirionedd rwy'n meddwl y byddai 'unoliaethwr modern' yn well ddisgrifiad o Carwyn na 'chenedlaetholwr' ond rwy'n credu bod 'na rhywbeth ffres a diddorol ynghylch ei safbwynt - yn sicr yn nhermau gwleidyddiaeth y blaid Lafur.
Ydy Carwyn yn genedlaetholwr, felly? Nac ydy yw'r ateb cywir - ond dyw e ddim yn unoliaethwr traddodiadol chwaith.