Derfydd Melfed Derfydd Sidan

Mae dweud bod hanes datganoli yn bennaf ymwneud a thensiynau o fewn y blaid Lafur yn dipyn o dôn gron ar y blog yma. Dyw'r tensiynau yna ddim wedi diflannu ac erbyn hyn maen nhw'n bodoli o fewn y blaid Geidwadol hefyd.

Fe fydd 'na lawer o drafod mewnol felly cyn i'r ddwy blaid fawr Brydeinig benderfynu beth yn union i gynnwys yn eu maniffestos ynghylch argymhellion diweddaraf Comisiwn Silk.

Yn wahanol i argymhellion Silk rhan un does 'na ddim gobaith caneri y bydd casgliadau Silk rhan dau yn cael eu gwireddu cyn etholiad 2015. Mae p'un ai ydynt yn cael eu gwireddu o gwbwl yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ganlyniadau'r etholiad hwnnw ac un y Cynulliad ddeuddeg mis yn ddiweddarach.

Mae un peth yn weddol amlwg yn barod. Ac eithrio ambell i lais does 'na ddim llawer o awydd yn rhengoedd y Ceidwadwyr i wireddu'r argymhellion. Pan mae Andrew R.T Davies yn gallu dweud gyda wyneb syth "it's not often I say this, but I agree entirely with the Secretary of State" mae'n amlwg taw anian unoliaethol David Jones sydd a'r llaw uchaf o fewn y blaid.

Derfydd sidan felly os oes 'na fwyafrif ceidwadol ar ôl 2015. Rwy'n amau hefyd a fyddai llywodraeth fwyafrifol Llafur yn rhuthro i ddeddfu. Mae 'na gytundeb gweddol eang o fewn y blaid ynghylch yr angen i symud at fodel o ddatganoli sy'n diffinio pwerau San Steffan yn hytrach na rhai'r Cynulliad - y "reserved powers model" bondigrybwyll. Mae cwestiynau eraill megis datganoli'r heddlu a'r system gyfiawnder troseddol yn fwy dadleuol.

Ym mha amgylchiadau felly y gallasai Silk rhan dau gael ei wireddu? Mae 'na dri phosibilrwydd yn fy marn i.

Y cyntaf yw bod 'na becyn llawer mwy eang o newidiadau cyfansoddiadol yn cael ei gyflwyno yn sgil refferendwm yr Alban - beth bynnag yw canlyniad hwnnw. Hynny yw, mae'n hawdd dychmygu argymhellion Silk yn cael eu bwydo i mewn i broses o'r fath.

Yr ail bosibilrwydd yw bod y newidiadau yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i drafodaethau clymblaid yn San Steffan. Gallwch fentro swllt y bydd gwireddu argymhellion Silk ymhlith addewidion maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol ac yn ôl Kirsty Williams mae'r "sgyrsiau angenrheidiol" eisoes yn digwydd o fewn y blaid ynghylch pwysigrwydd yr addewid hwnnw mewn senedd grog.

Mae'r drydedd ffordd y gallai'r maen gyrraedd y mur hefyd yn ymwneud a thrafodaethau clymblaid - ond y tro hwn yn y Cynulliad. Rydym wedi gweld o'r blaen bod sicrhau deddfwriaeth yn San Steffan yn gallu bod yn rhan o bris pŵer ym Mae Caerdydd.

Mae'n ddiddorol nodi bod y rhan fwyaf o ddatblygiadau yn y setliad datganoli ers 1999 wedi deillio o drafodaethau clymblaid. Y Democratiaid Rhyddfrydol wnaeth orfodi sefydlu Comisiwn Richard a Chomisiwn Silk a Phlaid Cymru oed yn gyfrifol am amseriad refferendwm 2011.

Cofiwch, doedd Llafur yn y Bae ddim yn wrthwynebus i un o'r datblygiadau uchod. Mae'r angen i ffurfio clymblaid yn gallu bod yn ffordd handi o gael eich ffordd yn erbyn eich cyd-bleidwyr yn San Steffan weithiau!

Mae'n ddigon posib y gwelwn ni'r un peth yn digwydd eto.