Nid yn fy enw i
- Cyhoeddwyd
- comments
Treuliais i ran o fy mhlentyndod yn Efail Isaf un o glwstwr o bentrefi i'r gogledd o Gaerdydd lle lwyddodd y Gymraeg i oroesi tra bod y cymunedau o'u cwmpas yn Seisnigo. Roedd 'na bedwar capel Cymraeg ym Mhentyrch, er enghraifft, tan y 1950au. Mae'r rheiny i gyd wedi cau erbyn hyn ond mae capeli Efail Isaf a Gwaelod y Garth yn dal i ffynnu.
Dydw i ddim yn dychwelyd i Efail Isaf yn aml. Mae 'na ddau reswm am hynny - dydw i ddim yn teimlo llawer o gysylltiad â'r lle mewn gwirionedd ac mae ymweld â'r pentref yn ddrwg iawn i'm mhwysedd gwaed!
Mae'r rheswm am hynny i weld ar giât ein hen dŷ. "Awelon" oedd enw gwreiddiol y lle a dyna oedd yr enw pan oeddwn i'n byw yna. "The Pippins" yw'r enw erbyn hyn. Hyfryd.
Nawr mewn un ystyr rwy'n teimlo bod perffaith hawl gan berchennog tŷ i newid ei enw. Ar y llaw arall pan ddaw hi'n fater o newid enw hanesyddol, ar fferm neu dafarn er enghraifft, oni ddylai'r gymuned ehangach gael llais yn y penderfyniad?
Fe fyddai modd gwneud hynny hefyd.
Ar hyn o bryd os oes 'na rif ar dŷ neu adeilad arall gellir newid yr enw mwy neu lai ar fympwy'r perchennog. Os oeddech chi'n aelod o deulu dychmygol Ryan a Ronnie ac yn byw yn 5, Slaughterhouse Terrace, er enghraifft , fe fyddai 'na berffaith hawl ganddoch chi i newid yr enw o "Golwg y Lladdfa" i "Tŷ'r Gwaed" heb ofyn caniatâd. Ar y cyfan rwy'n meddwl bod hynny'n deg.
Mae'r rheolau ynghylch adeiladau sydd heb rif stryd - ffermydd, bythynnod, tafarnau ac yn y blaen yn wahanol. Lle mae enw adeilad yn rhan o'r cyfeiriad post swyddogol rhaid gwneud cais i'r cyngor lleol er mwyn ei newid. Yn y rhan fwyaf o gynghorau, yr adran briffyrdd sy'n delio â cheisiadau o'r fath ac os nad yw'r enw newydd yn aflednais neu'n debyg o beri dryswch mae'r caniatâd i bob pwrpas yn cael ei roi'n awtomatig.
Ai felly ddylai pethau fod? Oni fyddai'n well i'r adran gynllunio ddelio â cheisiadau o'r fath gan osod dyletswydd arnynt i ymgynghori â'r cyhoedd a diogelu enwau hanesyddol yn enwedig lle bod y newid arfaethedig yn trosi enw Cymraeg i'r Saesneg?
Mae'r cynulliad ar fin trafod mesur cynllunio pellgyrhaeddol. Mae 'na elfennau ynddo sy'n llawer pwysicach i ddyfodol y Gymraeg na diogelu enwau ond mae'n gyfle i wleidyddion weithredu yn y maes os ydyn nhw'n dymuno gwneud.