Wele Cawsom y Meseia
- Cyhoeddwyd
- comments
Ymhen blwyddyn fe fydd y ras i rif deg wedi hen gychwyn gyda'r pleidiau i gyd yn heglu hi am y llinell derfyn. Gyda dyddiadau etholiadau cyffredinol bellach wedi eu pennu o flaen llaw bydd 'na ddim cychwyn swyddogol i'r ymgyrch wrth i'r Prif Weinidog neu, i fod yn fanwl gywir Palas Buckingham, gyhoeddi'r dyddiad.
Fe fydd yr ymgyrchu ar lawr gwlad yn para am fisoedd yn 2015 felly ac os ydych chi'n dioddef alergedd tuag at ganfaswyr a thaflenni - bwciwch wyliau nawr! Criws rownd y byd fyddai orau o gofio hyd tebygol yr ymgyrch!
Ar hyn o bryd dyw'r arolygon barn ddim yn argoeli'n dda i'r Ceidwadwyr gan awgrymu y byddai Llafur yn ennill â mwyafrif digon cysurus pe bai etholiad yn cael ei gynnal heddiw.
Serch hynny mae cyfeillion o fewn y blaid Geidwadol yn parhau'n optimistaidd. Mae'r economi'n gwella, meddid ac mae 'na gred, grefyddol bron y daw Meseia i'w hachub. Pwy yw'r Meseia hwnnw? Wel nid David, George na hyd yn oed Boris - ond Ed!
Rwyf wedi rhoi'r gorau i gyfri'r nifer o weithiau mae rhyw geidwadwyr neu'i gilydd wedi ceisio fy argyhoeddi "nad yw'r etholwyr yn gallu dychmygu Ed Miliband fel Prif Weinidog" neu'n mynnu y bydd yr etholwyr "yn gweld y peryg ar y funud olaf."
Faint o sail sy 'na i ffydd y Ceidwadwyr? Dyw'r ddadl ddim yn ddisylwedd.
Yn y cyfnod cyfatebol yn y Senedd ddiwethaf roedd y cyhoedd yn meddwl yn fawr o David Cameron. +29 oedd graddfa ffafrio Cameron ym Mawrth 2009 yn ol YouGov. -28 yw'r ffigwr cyfatebol i Miliband yn yr un mis eleni.
"Hwre!" medd y gleision! Ond gadewch i ni dyrru'n ddyfnach.
Yn ôl yn 2009 roedd y Prif Weinidog Gordon Brown yn boddi ymhell o'r lan! -24 oedd ei raddfa ffafrio yntau. Roedd yr adwy rhwng Cameron a Brown yn bumdeg tri o bwyntiau felly. Mae'n hynny'n gagendor rhyfeddol yn nhermau hanes arolygon barn. Serch hynny methodd Cameron ennill yr etholiad dilynol.
O ddychwelyd at arolygon 2014 fe gawn weld bod Cameron ei hun o dan y don y dyddiau hyn. -10 yw ei raddfa ffafrio. Iawn, mae'n llai amhoblogaidd na Miliband ond dim ond deunaw pwynt yw'r adwy. Dyw hynny ddim yn cynnig llawer o gysur i'r Ceidwadwyr yn fy marn i.
Ond nid cyfeirio at arolygon barn y mae'r Torïaid hynny sy'n mynnu y bydd yr etholwyr yn troi eu cefnau ar Ed yn y gorsafoedd pleidleisio.
Yn amlach na pheidio maen nhw'n cyfeirio yn ôl at y wers a ddysgwyd yn 1992 pan gollodd Neil Kinnock yn groes i ddarogan yr arolygon barn. Kinnock yr ail yw Miliband yng ngolwg y Ceidwadwyr hyn.
Ond mae modd dadlau bod 'na gamsyniad difrifol yn y gred honno. I'r graddau bod pobl yn adweithio i'r syniad o Kinnock fel Prif Weinidog yn '92 roeddent yn gwneud hynny ar y sail ei fod yn analluog neu hyd yn oed yn dwp - y "Welsh windbag" i ddefnyddio chwedl yr oes.
Hyd y gwn i does neb yn credu bod Miliband yn dwp. Mae'n debyg bod rhai yn credu ei fod ychydig yn od - yn dipyn o gîc, efallai, gyda llais main ac ystumiau rhyfedd.
Roedd 'na arweinydd o'r fath yna yn etholiad 1992. Nid Neil Kinnock oedd hwnnw - ond John Major ac fe wnaeth e ennill yr etholiad, wrth gwrs.